Felin yn cael dechrau da i’r tymor

ennill oddicartref ym Mhenarlag

gan Gwilym John

Cynghrair Ardal “Fitlock” Gogledd Orllewin

Penarlag (Hawarden Rangers) 2 Felin 3

Sadwrn, Awst 6ed

Cafwyd cychwyn ardderchog i’r tymor newydd, gyda Felin yn sicrhau y tri-phwynt oddicartref yn sir Fflint yn erbyn newydd-ddyfodiaid i’r gynghrair

Roedd hon yn fuddugoliaeth dda iawn o ystyried fod dau o hogiau Felin, Ryan Cain a’r golgeidwad Guto Hughes, yn cynrychioli tim Cymru (UEFA Regions Amateur Cup) mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Iwerddon yn Cork. Braint ac anrhydedd mawr i’r ddau ac i glwb pêl-droed Felin. Colli 2-1 wnaeth Cymru, ond gobeithio daw cyfle arall i’r hogiau.

A tydi gêm ar Sadwrn olaf yr Eisteddfod byth yn newyddion da i CPD Felin, gyda nifer o chwaraewyr ddim ar gael. Ond cafwyd sioe dda iawn gan y rhai wnaeth y daith i’r dwyrain.

Rhaid rhoi clod i Aled Hughes, a fentrodd  chwarae yn y gôl yn absenoldeb Guto, a llwyddo i safio penalty hyd yn oed!

Gruff John gafodd gôl gyntaf Felin, yn rhwydo o’r smotyn. Yna daeth Llion Jones a Felin yn gyfartal 10 munud o’r diwedd. Cyn i Rhys “Archie” Parry benio gôl wych i ennill y gêm yn y funud olaf.

Darbi lleol nos Fercher yn Seilo, felly dewch yn llu i gefnogi.