Mae un o drigolion adnabyddus Bangor yn dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed!
Er i Enid Griffith gael ei geni yn Llandrindod, Powys, symudodd y teulu i Wynedd pan oedd hi’n 3 oed. Penodwyd ei thad yn Bennaeth ar Ysgol Ganol Llanrug, ac yno’r aeth Enid i’r ysgol. Cafodd ei haddysg uwchradd yn Ysgol Sirol Merched Bangor, neu’r Bangor County School for Girls. Aeth yn ei blaen i astudio Bywydeg ym Mhrifysgol Bangor.
Dechreuodd Enid ei gyrfa yn Ysgol Ramadeg Merched Manceinion, fodd bynnag gofynnodd prifathrawes ei chyn ysgol iddi ddychwelyd i ddysgu ym Mangor.
Yn sgil ad-drefnu addysg uwchradd ym Mangor yn 1971, cyfunwyd tair ysgol – Ysgol Friars, Ysgol Sirol Merched Bangor ac Ysgol Deiniol. Penodwyd Enid yn Ddirprwy Bennaeth a bu yno tan ei hymddeoliad yn 61 oed.
Ond hyd yn oed ar ôl iddi ymddeol, fuodd Enid ddim yn gorffwys ar ei rhwyfau. Bu’n aelod o Gyfeillion Gardd Fotaneg Treborth am 20 mlynedd a bu’n eu cefnogi yn eu holl waith, gan gynnwys helpu ysgrifenwyr y Cylchlythyr gyda’r fersiwn Gymraeg.
Yn ddiweddarach gwnaed hi’n aelod anrhydeddus o’r Cyfeillion.
Bu hefyd yn weithgar gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Cymdeithas yr Ardd Alpaidd a’r RSPB. Mae hi hefyd yn aelod o’r Soroptimyddion a bu’n llywydd y gangen ym Mangor am gyfnod.
Ar achlysur penblwydd Enid yn 100 oed, aeth Siân Gwenllian, sy’n cynrychioli’r ardal leol yn y Senedd draw i weld Mrs Griffith. Mae Siân yn un o gyn-ddisgyblion Enid.
“Mae gen i flynyddoedd o atgofion melys yn Ysgol Sirol Merched Bangor, y Bangor School for Girls.
“Rhoddodd Enid ac athrawon eraill sylfaen gadarn i mi wireddu uchelgais fy mywyd.
“Fyddwn i ddim yn y safle yr ydw i ynddi heddiw, yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobol oni bai am ysbrydoliaeth unigolion fel Enid Griffiths.
“Yn ystod fy ymweliadau cymunedol wythnosol yn Arfon rwy’n aml yn rhyfeddu at barodrwydd pobl i dorchi eu llewys a gweithio er lles eu cymunedau. Mae Enid yn amlwg yn un o’r bobl hynny.
“Roedd yn bleser ymweld ag Enid yn bersonol ym Mangor i ddymuno penblwydd hapus iddi.”