Deuawd canu gwlad boblogaidd yn ymuno â Radio Ysbyty Gwynedd!

Iona ac Andy yn ymuno fel cyflwynwyr newydd!

Sarah Wynn Griffiths
gan Sarah Wynn Griffiths

Mae gan Radio Ysbyty Gwynedd, yr orsaf radio ysbyty lleol, ddau gyflwynydd newydd yn ymuno â nhw, y ddeuawd canu gwlad enwog, Iona ac Andy!

Cyhoeddodd y ddeuawd briod adnabyddus y newyddion cyffrous ar Radio Cymru heddiw (26ain Gorffennaf, 2022) ar raglen radio Ifan Jones Evans.

Mae Kevin Williams, Cadeirydd Radio Ysbyty Gwynedd wrth ei fodd gyda’r newyddion “Mae’n wych bod Iona ac Andy yn ymuno â ni ar Radio Ysbyty Gwynedd fel cyflwynwyr. Rydym wedi bod yn trafod eu rhaglen canu gwlad newydd sbon ac mae’n mynd i fod yn rhaglen mor wych i gleifion Ysbyty Gwynedd a’n cymuned ehangach. Mae Radio Ysbyty Gwynedd yn mynd o nerth i nerth wrth ddatblygu ein gorsaf ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu mwy o sêr i’n gorsaf yn fuan.”

Dywedodd Iona o Iona ac Andy “Rydym mor falch o fod yn ymuno â Radio Ysbyty Gwynedd ac yn cyflwyno ein rhaglen ein hunain ar yr orsaf. Cefais driniaeth yn Ysbyty Gwynedd am ganser y fron a chefais ofal gwych gan y tîm yn Ysbyty Gwynedd”.

Ychwanegodd Andy o Iona ac Andy “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gael cychwyn ar Radio Ysbyty Gwynedd a darlledu i gleifion Ysbyty Gwynedd a’n cymuned”.

Bydd rhaglen newydd sbon Iona ac Andy, ‘Iona ac Andy’s Country’ yn cychwyn ar Radio Ysbyty Gwynedd ar y 6ed o Fedi, 10.30yb-12yp. Bydd y ddeuawd yn sgwrsio am eu rhaglen newydd sbon ar raglen radio Terry Phipps ar Radio Ysbyty Gwynedd, ddydd Mercher (27ain Gorffennaf) rhwng 10.30am-12pm.

Gall cleifion yn Ysbyty Gwynedd wrando ar Radio Ysbyty Gwynedd ar sianel 1 ar eu clustffonau yn yr ysbyty. Gall ein cymuned ehangach wrando ar-lein: www.radioysbytygwynedd.com ac ar Ap Radio Ysbyty Gwynedd.

Mae Iona ac Andy wedi teithio’r byd gyda’u cerddoriaeth; maent wedi canu ar draws y byd gan gynnwys yn yr Unol Daleithiau lle buont yn ymddangos ar y byd enwog, Grand Ole Opry.

Yn 1987 cawsant eu pleidleisio fel hoff ddeuawd Prydain yn y British Country Music Awards. Yn 1991, cawsant eu dewis i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ryngwladol yn Wembley Arena, gan rannu’r llwyfan gyda Johnny Cash a Tammy Wynette.

Mae Radio Ysbyty Gwynedd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dwy wobr yng Ngwobrau mawreddog Radio Ysbyty Cenedlaethol 2022. Mae’r orsaf wedi’i henwebu ar gyfer gwobr ‘Gorsaf Radio’r Flwyddyn’ ac mae’r cyflwynydd Sarah Wynn Griffiths wedi’i henwebu ar gyfer y wobr ‘Cyflwynwraig Gorau’r Flwyddyn’.