Radio Ysbyty Gwynedd ar y restr fer ar gyfer dwy wobr yng Ngwobrau Radio Ysbyty Cenedlaethol!
Mae gorsaf radio ysbyty lleol Radio Ysbyty Gwynedd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dwy wobr yng Ngwobrau mawreddog Radio Ysbyty Cenedlaethol 2022. Mae’r orsaf wedi’i henwebu ar gyfer gwobr ‘Gorsaf Radio’r Flwyddyn’ ac mae’r cyflwynydd Sarah Wynn Griffiths wedi’i henwebu ar gyfer y wobr ‘Cyflwynwraig Gorau’r Flwyddyn’.
Daeth Radio Ysbyty Gwynedd i’r 5 uchaf am yr ail flwyddyn yn olynol yng Ngwobrau Radio Cymunedol cenedlaethol yn 2021 ac maent yn falch iawn o gael eu cydnabod am eu gwaith yn y Gwobrau Radio Ysbyty Cenedlaethol eleni.
Mae Kevin Williams, Cadeirydd Radio Ysbyty Gwynedd wedi’i syfrdanu gan y gydnabyddiaeth “Fel gorsaf, rydyn ni i gyd mor falch o gael ein henwebu ar gyfer dwy wobr yng Ngwobrau Radio Ysbyty Cenedlaethol 2022. Cawsom flwyddyn wych y llynedd; datblygwyd ein gorsaf gyda mwy o raglenni a chyflwynwyr newydd a daethom yn y 5 uchaf yn y DU am yr ail flwyddyn yn olynol yng Ngwobrau Radio Cymunedol am ein gwaith yn Ysbyty Gwynedd a’n cymuned ehangach. Mae ein tîm o wirfoddolwyr a chyflwynwyr yn gweithio mor galed ar eu rhaglenni a rhedeg ein gorsaf sydd wedi arwain at hyd yn oed mwy o raglenni newydd eleni a recriwtio mwy o gyflwynwyr newydd. Rwyf wrth fy modd gyda’n henwebiadau am y gwobrau ac rwy’n falch iawn o enwebiad Sarah ar gyfer ‘Cyflwynwraig Gorau’r Flwyddyn’, sy’n haeddiannol iawn. Mae’n anrhydedd mawr cael ein cydnabod yn genedlaethol eto eleni.”
Dywedodd Cadeirydd yr Hospital Broadcasting Association, Grant McNaughton, “Mae sefydliadau Darlledu Ysbyty ledled y DU wedi parhau i ddarparu adloniant, newyddion a gwybodaeth ddifyr i ddefnyddwyr gofal iechyd trwy gydol y pandemig hwn. Yr hyn sy’n wirioneddol ryfeddol yw bod ein gorsafoedd radio ysbyty wedi addasu i’r cyfnod anodd hwn ac wedi parhau’n ymrwymedig i wasanaethu, cynhyrchu a chyflwyno radio lleol pwrpasol ar gyfer y gymuned gofal iechyd. Mae ein Gwobrau Cenedlaethol Radio Ysbyty’n cydnabod talent ac ymroddiad gwirfoddolwyr darlledu ysbyty, ac mae ceisiadau eleni yn arddangos y dalent a’r ymrwymiad rhyfeddol hwnnw.”
Bydd y Gwobrau Radio Ysbyty Cenedlaethol yn cael eu cynnal yn Bolton yn ddiweddarach eleni.
Mae Radio Ysbyty Gwynedd wedi bod yn darlledu ers 1976 a dathlodd ei benblwydd yn 45 y llynedd. Gall cleifion Ysbyty Gwynedd wrando ar Radio Ysbyty Gwynedd ar sianel 1 ar eu clustffonau a gall ein cymuned ehangach wrando ar-lein: www.radioysbytygwynedd.com ac ar Ap Radio Ysbyty Gwynedd.