Mae cerddor o’r Felinheli wedi cael llwyddiant ysgubol yng Ngwobrau’r Selar eleni, gan ennill hat-tric o wobrau.
Mae Guto Rhys Huws yn drymio i’r band Papur Wal, sydd wedi ennill y wobr Band Gorau, Cân Orau, a’r Record Hir Orau am y flwyddyn ddiwethaf yn dilyn pleidlais.
Cafodd y gwobrau, sy’n cael eu trefnu gan Gylchgrawn Y Selar, eu cyhoeddi dros gyfnod o ddau ddiwrnod ar raglenni Lisa Gwilym a Huw Stephens ar BBC Radio Cymru.
Nos Fercher (16 Chwefror), daeth y band i’r brig yn y categori Cân Orau, am eu tiwn ‘Llyn Llawenydd’, yn ogystal â chategori Record Hir Orau, am yr albwm ‘Amser Mynd Adra’.
Ac wedyn nos Iau (17 Chwefror), cyhoeddodd Huw Stephens mai nhw oedd yn haeddu gwobr y Band Gorau hefyd.
Papur Wal
Er bod yr aelodau i gyd o’r gogledd orllewin, cafodd Papur Wal ei sefydlu yng Nghaerdydd yn 2016.
Ers hynny, maen nhw wedi rhyddhau’r EP, ‘Lle yn y Byd Mae Hyn?’, a mwy na hanner dwsin senglau – rhai ohonyn nhw’n ymddangos ar yr albwm diweddaraf.
‘Amser Mynd Adra’ oedd eu record hir gyntaf erioed, ac mae caneuon fel ‘Llyn Llawenydd’, ‘Arthur’ a ‘Meddwl am Hi’ wedi cael eu hail-adrodd dro ar ôl tro gan sawl un dros y flwyddyn ddiwethaf.