Buddugoliaeth fawr i Felin

Curo Llai yn y gynghrair ar ol cael stîd yno bethefnos ynghynt

gan Gwilym John
20221112_154458-frame-at-0m14s

gôl Archie

Cynghrair Ardal “LockStock” Gogledd Orllewin

Llai 0 Felin 1

Tachwedd 12ed

Ar ol cael eu chwalu 7-0 mewn gêm gwpan bethefnos ynghynt, chwaraeodd hogiau Felin fel ’tasan nhw angen profi rhywbeth. Cafwyd perfformiad angerddol a disgybledig, a daeth y wobr gyda munudau yn unig yn weddill, gyda Rhys “Archie” Parry yn ffeindio cefn y rhwyd yn dilyn cig gosb. Roedd Llai yn ail yn y tabl cyn y gêm hon, ac wedi meddwl y bydda hi yn fuddugoliaeth hawdd arall, siwr o fod.

Tri phwynt pwysig iawn i Felin, ac yn codi i’r 11eg safle yn y tabl. Hon oedd trydydd buddugoliaeth Felin mewn naw gêm gynghrair, ac un sydd yn siwr o godi calonnau ar ol colli pedair gêm yn olynnol (dwy o’r rheini yng Nghwpan Cymru a Tlws Amatur Cymru).