Cylch yr Iaith
Datganiad i’r wasg
11.07.22
Ble mae arian twristiaeth yn mynd?
‘Os ydi economi Gwynedd yn derbyn £1.35 biliwn y flwyddyn o dwristiaeth, fel yr honnir, pam mae cymunedau’r sir yn dlawd? Faint o’r arian sy’n dod i’n cymunedau?’ Dyma’r cwestiynau mae Cylch yr Iaith yn eu gofyn gyda’r tymor twristaidd yn dod i’w benllanw yn ystod gwyliau’r haf.
Meddai’r mudiad mewn datganiad: ‘Mae Cyngor Gwynedd wedi methu dweud wrthym ble’n union y mae’r swm mawr hwn o arian yn mynd. Roeddem wedi gofyn am ddadansoddiad manwl o’i ddosbarthiad, ond yr hyn rydym wedi ei dderbyn ydi data ar ffurf ystadegau a graffiau sydd ddim yn rhoi darlun clir o’r sefyllfa. Mae angen i bobl Gwynedd gael gwybod faint o’r £1.35 biliwn sy’n mynd allan o’r sir, ac allan o Gymru, a faint sy’n mynd i fusnesau lleol, ac i fusnesau siaradwyr Cymraeg lleol.
‘Yn ôl Cyngor Gwynedd, mae’r math o dwristiaeth sydd gennym “yn dda iawn i’r economi”, ond beth ydi ystyr hynny os nad ydi ein cymunedau lleol yn elwa o’r sefyllfa?
‘Mae Cyngor Gwynedd wedi cydnabod bod y sir yn dioddef gan or-dwristiaeth, a’i bod “yn anghynaliadwy”, ac eto mae’r Cyngor yn hyrwyddo cynnydd yn niferoedd yr ymwelwyr drwy ddatblygu ac ehangu’r isadeiledd.
‘Rhaid i’r Cyngor fod yn eithriadol o ofalus. Mae’r Blaid Geidwadol a chwmni preifat North Wales Tourism yn daer dros ddatblygu twristiaeth ymhellach yng ngogledd Cymru, gydag atyniadau poblogaidd Gwynedd a Môn mewn golwg yn arbennig. Maen nhw’n galw am lacio rheolau ar fusnesau, a gwario’n helaeth ar greu cyfleusterau twristaidd newydd ac ehangu’r isadeiledd. Y bwriad ydi darostwng ein cymunedau i dwristiaeth, gan eu gwneud yn gynyddol ddibynnol ar y farchnad ymwelwyr. Nid hynny ydi’r ateb, oherwydd cynyddu’r or-dwristiaeth bresennol fyddai canlyniad hynny.’
Howard Huws
Cydlynydd Ymgyrch Dwristiaeth
Cylch yr Iaith.