Roedd CELAVI wrth eu boddau clywed eu cân ‘TEMPEST’ ar BBC Radio 6 Music ar y rhaglen ‘The BBC Introducing Mixtape’ yn ddiweddar a nawr, mae eu cân newydd ‘NIGHTMARE’ wedi cael ei ychwanegu i restr fawreddog ‘Best New Bands’ gan Amazon Music.
Dywedodd Gwion o CELAVI “Da ni wrth ein boddau bod arbenigwyr o Amazon Music wedi curadu rhestr chwarae gyda bandiau maen nhw’n ystyried y gorau yn y DU. Mae ein cân ddiweddaraf ar restr olygyddol enfawr, dim ond 48 cân arall sydd ar y rhestr. Mae hyn yn meddwl y byd i ni. Da ni’n hapus iawn ac mor ddiolchgar am y gydnabyddiaeth!”
Yn ogystal â chefnogaeth ddiweddar gan BBC Introducing ar BBC 6 Music, mae CELAVI wedi derbyn cefnogaeth reolaidd gan BBC Introducing ar Radio Wales.
Mae CELAVI wedi bod yn recordiau traciau newydd gyda’r cynhyrchydd roc a metal uchel ei barch Romesh Dodangoda. Gyda chefnogaeth gan Gorwelion 2022, bydd eu cân newydd anferth gyda Romesh yn cael ei ryddhau’n fuan!
Ydych chi’n barod am rywbeth gwahanol?
I glywed y rhestr chwarae ‘Best New Bands’: bit.ly/3gGUN1C
Am ragor o wybodaeth: