Bagiau i’r Banc Bwyd

Apêl am fagiau yn ogystal â bwyd.

gan Marian

Cynhelir Banc Bwyd Bangor bob dydd Llun, Mercher a Gwener rhwng 2 – 3 o’r gloch yng Nghanolfan yr Esgobaeth ar waelod Stryd Waterloo. Yn ogystal â derbyn rhoddion o fwyd ac arian mae’r banc bwyd yn apelio am fagiau cryfion ar gyfer dosbarthu bwyd i’w cwsmeriaid.

Os oes gennych chi fagiau sbar yna mae modd i chi fynd a nhw draw i’r ganolfan ar y dyddiau uchod o 1 o’r gloch ymlaen.

Mae croeso bob amser i roddion o duniau cawl, cig, pasta, ffrwyth, reis, cwstard, yn ogystal â the, coffi a siwgr.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â delythm17@gmail.com