Mae Bangor yn un o’r llefydd ddylai weld trenau trydan yn y dyfodol, yn ôl y cynlluniau diweddaraf.
Hefyd, mae bwriad adnewyddu gorsaf fysiau’r ddinas.
Mae trafnidiaeth gyhoeddus ar draws gogledd Cymru am gael ei wella fel rhan o strategaeth gan Lywodraeth Cymru.
Fe gafodd delweddau newydd eu cyhoeddi wythnos diwethaf yn dangos y cynlluniau ar gyfer rhaglen fetro yn y rhanbarth.
Bwriad y cynllun yw gwella gorsafoedd a sefydlu rhai newydd, a sicrhau trenau amlach ar hyd yr arfordir o Fangor i Wrecsam erbyn 2029.
Maen nhw hefyd yn cynllunio i drydaneiddio’r rheilffordd rhwng Caer a Chaergybi yn y dyfodol agos.
Ar ben hynny, bydd gwasanaethau ffyrdd yn elwa o’r cynllun, yn enwedig bysiau a chyfleusterau parcio a theithio.
Bydd dros £1 miliwn yn cael ei gyfrannu ar gyfer Strategaeth Drafnidiaeth Eryri, sy’n ceisio annog parcio a theithio, teithio ar fysiau, a theithio llesol o fewn y Parc Cenedlaethol.
“Mwy cyfforddus, hygyrch a gwyrddach”
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, bod y sylfeini wedi’u sefydlu ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau trawsnewidiol a theithio llesol.
“Ochr yn ochr â lleihau unigedd gwledig a gwella cyfleoedd gwaith, busnes a hamdden ledled gogledd Cymru, bydd y cynlluniau hyn hefyd yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o ddatblygu economi ehangach y rhanbarth,” meddai.
“Bydd ein rhwydwaith trafnidiaeth yn newid y ffordd rydym yn teithio drwy greu rhwydweithiau bysiau, rheilffyrdd a beicio a cherdded modern, cynaliadwy, a chreu amrywiaeth o gyfleoedd gwaith a hamdden tra’n lleihau effaith amgylcheddol.”