Swyddog ieuenctid yn weinidog

Gyrfa newydd i Owain yn ei ardal ei hun

William Owen
gan William Owen

Erbyn hyn mae swyddog plant ac ieuenctid tri o gapeli ym Mangor, y Felinheli ac Abergwyngregyn yn Barchedig Owain Davies.

Cafodd ei ordeinio yn weinidog mewn gwasanaeth yn Llanbedr y Cennin, Dyffryn Conwy dydd Sadwrn. Bydd yn gofalu am dri ar ddeg o gapeli Annibynnol yn yr ardal o’i gartref yn Llanrwst.

Bu’n gweithio gyda phlant ac ieuenctid yr ardal ers iddo gael ei benodi yn 2017. Yn ystod y cyfnod hwn bu’n astudio ar gyfer y weinidogaeth

Diolchodd gweinidog yr ofalaeth, y Parch Ddr Elwyn Richards iddo am ei holl waith, ymroddiad a’i frwdfrydedd diflino yn Y Felinheli, Bangor ac Abergwyngregyn.

Yn y gwasanaeth soniodd Owain am ei werthfawrogiad a’i ddiolchgarwch i ofalaeth Bangor am yr holl gefnogaeth a’r cyfeillgarwch a brofodd yn ystod y pedair blynedd diwethaf.

“Dymunwn y gorau i’r Parchedig Owain Davies a’r teulu ar drothwy cyfnod newydd yn eu hanes,” meddai.

Cynhelir cyfarfod ffarwelio y mis nesaf.