Mae grŵp Facebook Natur Felin wedi ei sefydlu yn y pentref fel fforwm i drafod materion byd natur. Yn ôl Anwen Lynne Roberts, pwrpas y grŵp yw “rhannu lluniau o natur o gwmpas Y Felinheli, neu rannu cyngor a syniadau am arddio.”
Dywedodd Anwen fod y grŵp Cymuned Llên Natur wedi bod yn ysbrydoliaeth iddi sefydlu’r grŵp. Bwriad y grŵp hwnnw yw “creu cymuned byw o naturiaethwyr ac amgylcheddwyr Cymreig sy’n effro i’r hyn sy’n digwydd yn ein cefn gwlad – yn ein milltir sgwâr ac ym mhen draw’r byd.”
Yn sôn am y grŵp, dywedodd Anwen;
“Dwi’n rhyfeddu wrth weld y lluniau anhygoel o natur a bywyd gwyllt ledled Cymru.
“Mae merch fy ffrind sy’n 7 mlwydd oed yn rhuthro adra o’r ysgol i gael gweld y lluniau diweddaraf.
“Un rheswm i greu’r dudalen Natur Felin ydi cael cyfle i rannu’r fioamrywiaeth o gwmpas ein pentref.
“Hefyd, mae’r pentref a Lôn Las Menai yn byrlymu efo blodau gwyllt ar hyn o bryd, ac mae’n fendigedig gweld hyn. Mae wir yn codi fy nghalon gweld y fath hyfrydwch.”
Mae Anwen yn dweud ei bod yn “pryderu” nad yw rhai yn gwerthfawrogi blodau gwyllt, a’u bod yn eu hystyried yn “chwyn.”
“Rhaid cyfaddef fy mod i wedi anwybyddu blodau gwyllt yn y gorffennol ond rŵan dwi’n ceisio sylwi ar y gwahanol rywogaethau, a dysgu eu henwau.
“Mae blodau gwyllt mor hanfodol i beillwyr a dwi’n gobeithio codi ymwybyddiaeth o hyn, ynghyd ag annog pobol i dorri llai ar eu gwair, sydd eto yn hafan i bob math o greaduriaid.
“Rwy’n edrych ymlaen at rannu lluniau a dysgu gan eraill am y planhigion a bywyd gwyllt yn ein gerddi ac o’n cwmpas.”
Gallwch ymuno â’r grŵp drwy ddilyn y ddolen hon.