gan
Osian Owen
Mae cyn-fyfyrwraig Prifysgol Bangor wedi dod yn ail yng nghystadleuaeth y fedal ddrama Eisteddfod yr Urdd 2021.
Er bod Carys yn byw yng Nghaerdydd bellach, mae’n dod o Gaernarfon. Ar ôl gadael Ysgol Syr Hugh Owen, aeth yn ei blaen i astudio Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Bangor.
Gydol yr wythnos hon mae Eisteddfod yr Urdd yn cyhoeddi enillwyr prif wobrau Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2020. Cyflwynwyd y cyfansoddiadau ddechrau Mawrth 2020, ond erbyn diwedd y mis roedd y wlad mewn cyfnod clo, ac roedd yr Eisteddfod wedi ei gohirio.
Llongyfarchiadau Carys!