gan
William Owen
Dechrau dysgu Cymraeg yn ei hawr ginio a wnaeth Eirini Sanoudaki, ddeng mlynedd yn ôl. Rwan, hi sydd wedi ennill gwobr genedlaethol am ei defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle. Mae’n dod yn wreiddiol o Creta, Gwlad Groeg.
Yn uwch ddarlithydd mewn ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor, enillodd Eirini y wobr yng ngwobrau blynyddol Cymraeg Gwaith, a gynhelir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Yn ei gwaith, mae Eirini yn edrych ar ddatblygiad iaith siaradwyr unieithog a dwyieithog. Mae’n canolbwyntio ar blant ag anhwylderau fel syndrom Down ac awtistiaeth. Daeth i weithio ym Mhrifysgol Bangor gan ei bod yn teimlo mai dyma un o’r lleoedd gorau yn Ewrop i astudio datblygiad plant dwyieithog.