Diwrnod agored canolfan gelfyddydol newydd Bangor

Mae’r AS lleol yn honni y bydd y ganolfan newydd yn “rhoi profiadau gwerthfawr i bobl ifanc yr ardal”

gan Osian Owen

Cyhoeddwyd yn ddiweddar y bydd canolfan gelfyddydau creadigol newydd yn cael ei hagor mewn eglwys hanesyddol ym Mangor.

 

Ddoe agorodd Nyth, canolfan gelfyddydau newydd yn hen Eglwys y Santes Fair ym Mangor ei drysau i’r cyhoedd.

 

Nyth fydd pencadlys diweddaraf Cwmni Frân Wen, cwmni theatr “gyffrous, heriol ac ysbrydoledig i bobl ifanc.”

 

Agorwyd drysau’r adeilad ar Ffordd Garth i roi cyfle i’r cyhoedd weld y cynlluniau ar gyfer y ganolfan newydd, cynlluniau sy’n cynnwys gofod perfformio ac ymarfer, stiwdio lai yn y seler, gofodau swyddfa a gofodau cymunedol hyblyg.

 

Mynychwyd y diwrnod agored gan yr Aelod lleol o’r Senedd, Siân Gwenllian, sydd hefyd yn llefarydd Plaid Cymru dros y Gymraeg.

 

Dywedodd;

 

“Mae’r celfyddydau a diwylliant yn rhannau annatod o fywydau pawb.

 

“Yn enwedig yng Nghymru, rydyn ni’n genedl lle mae diwylliant yn greiddiol i’n ffordd o fyw.

 

“Dros y flwyddyn ddiwethaf, bûm yn trafod fy mhryder ynghylch effaith andwyol y pandemig ar ddiwydiant celfyddydau Cymru, felly mae’n wych cael achos i ddathlu.”

 

Mae Cwmni’r Frân Wen wedi sicrhau £1.8m gan y Loteri Genedlaethol, a weinyddir trwy Gyngor Celfyddydau Cymru, £1.2m trwy Gyngor Gwynedd gan raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, £200,000 gan Sefydliad Garfield Weston a £10,000 gan Sefydliad Pennant.

 

Ychwanegodd yr AS;

 

“Mae’r cynlluniau’n gyffrous ac yn uchelgeisiol ac heb os, bydd y ganolfan yn rhoi profiadau gwerthfawr i bobl ifanc Bangor.

 

“Does ’na ddim modd rhoi pris ar y rôl mae’r celfyddydau yn ei chwarae ym mywydau pobl.

 

“Dyna pam fy mod i wedi galw’n ddiweddar am Gronfa Gweithwyr Llawrydd i gefnogi gweithwyr llawrydd Cymru i weithio yn y gymuned ac mewn ysgolion.

 

“Rwy’n edrych ymlaen at weld y cynlluniau yn dwyn ffrwyth, a hoffwn ddymuno’n dda i Frân Wen.”

 

Mae Frân Wen wedi rhyddhau datganiad gan eu Cyfarwyddwr Gweithredol, Nia Jones;

 

“Rydym yn deall pwysigrwydd yr adeilad hanesyddol yma i’r gymuned leol felly maen hynod o bwysig i ni roi’r cyfle yma i bobl ddod i weld yr adeilad cyn i’r gwaith datblygu gychwyn.”