Ar ôl blwyddyn sydd ’di bod yn heriol i bawb, sut mae mynd ati i godi calon a chodi swm sylweddol o arian ar gyfer elusen deilwng? Wel, trwy ddawnsio yn ddi-dor am 8 awr wrth gwrs! Dyna’r syniad gwallgof sydd ar fin cael ei wireddu gan griw Cyfeillion Ysgol Y Felinheli. Y cadeirydd, Lisa Gwilym sy’n esbonio mwy:
“Mae wedi bod yn amhosib trefnu gweithgareddau hwyliog ar gyfer disgyblion yr ysgol eleni oherwydd y pandemig, ac yn sgil hynny mi oedd coffrau’r Cyfeillion yn edrych yn eitha’ llwm. Felly ar ôl cael sgwrs efo’r gŵr, dyma benderfynu creu digwyddiad, a dwi mor ddiolchgar i Llŷr am gytuno i fynd amdani efo’r her”.
Gŵr Lisa ydi’r actor Llŷr Ifans , ac mae ganddynt blentyn ym mlwyddyn 2 yn yr ysgol. Mae cerddoriaeth yn chwarae rhan fawr ym mywyd y teulu, felly does dim syndod mai uno’r diddordeb hynny a’r awydd i godi arian ar gyfer yr ysgol oedd yr ysgogiad. Felly beth yn union fydd yn digwydd ar y 7fed o Orffennaf ar dir Ysgol Y Felinheli? Llŷr sy’n egluro:
“Dwi’n bwriadu dawnsio o 8 y bore pan fydd criw’r Clwb Brecwast yn cyrraedd yr ysgol, tan 4 y prynhawn pan fydd pawb yn gadael am adre. Wyth awr o symud fy nghorff sy’n dipyn o beth i hen ddyn fel fi! Ond dwi’n edrych ’mlaen achos mi fydd pob dosbarth yn ei dro yn cael y cyfle i ddod allan i ddawnsio efo fi ac i ymuno yn yr hwyl. A phwy a ŵyr, ella gai ‘slow dance’ efo’r pennaeth? Rhywbeth i godi gwên ar ddiwedd tymor, a rhywbeth fydd gobeithio yn codi lot o arian ar gyfer y Cyfeillion”.
Mae Lisa, fel un o gyflwynwyr Radio Cymru a Radio Cymru 2, wedi hen arfer dewis caneuon a chyflwyno bob math o gerddoriaeth wych, ond dim hi fydd y DJ y tro yma. Roedd Llŷr a hithau’n awyddus bod pob disgybl yn cael y cyfle i ddewis cân ar gyfer y rhestr chwarae. Disgo i’r plant wedi ei greu gan y plant! Diwrnod llawn hwyl i gasglu arian sydd wir ei angen i brynu llyfrau ac offer technoleg gwybodaeth ar gyfer disgyblion yr ysgol. I gloi, gair arall gan Lisa:
“Mae hyn yn gyfle gwych i ni ddathlu bod hi’n ddiwedd tymor efo staff a disgyblion yr ysgol. Dwi mor ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu hyd yn hyn, ac mi fuaswn i’n hoffi manteisio ar y cyfle yma i ddiolch yn arbennig i’r cwmnïau lleol sydd wedi rhoi mor hael. Mae criw’r Cyfeillion yn gwerthfawrogi pob ceiniog. Plîs cefnogwch a chyfrannwch fel y gallwch, mwynhewch y gerddoriaeth, a phob lwc yn y byd i Llŷr efo’r dawnsio!”.
Gallwch gyfrannu at yr achos gan ddefnyddio’r linc yma. Diolch o galon. Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch lisagwilym@hotmail.co.uk