Mae Gareth Griffith, cynghorydd lleol pentref Y Felinheli wedi cadarnhau bod y cynllun amddiffyn rhag llifogydd “bron â’i orffen”.
Ar ymweliad diweddar â’r wal gydag Aelod o’r Senedd dros Arfon a chyn gynghorydd y pentref Siân Gwenllian, dywedodd Gareth Griffith;
“Ychydig flynyddoedd yn ôl fe aeth y tir ar Lan y Môr y Felinheli o dan ddŵr.
“Mae’n ymddangos, o ganlyniad i newid hinsawdd, y bydd y math yma o beth yn digwydd yn amlach.
“Mewn ymateb i’r llifogydd, lluniodd Ymgynghoriaeth Gwynedd gynllun i atal llifogydd o’r fath yn y dyfodol, ac rwy’n falch bod y gwaith bellach wedi’i gwblhau.
“Gwnaed y gwaith gan gwmni lleol ac rwy’n gobeithio y bydd y wal yn amddiffyn cartrefi yn y dyfodol.”
Ymatebodd Siân Gwenllian, Aelod o’r Sendd dros Arfon a chyn gynghorydd sir y pentref;
“Roedd yn wych ymweld â’r cynllun amddiffyn rhag llifogydd a roddwyd ar waith gennyf pan oeddwn yn gynghorydd dros Y Felinheli.
“Gweithiodd y cyngor yn agos gyda thrigolion, gan gwrando ar eu syniadau wrth ddatblygu’r cynllun.
“Mae gwaith celf a geiriau pobol leol yn addurno’r wal, hefyd.
“Esboniodd y cynghorydd presennol, Gareth Griffith fod y cynllun bron â’i gwblhau, ac rwy’n falch iawn bod camau wedi’u cymryd i amddiffyn cartrefi lleol.”