Mae rhai o gynghorwyr Bangor wedi trafod y pethau a’u hysgogodd i sefyll fel cynghorydd.
Mae Elin Walker Jones yn gynghorydd ers buddugoliaeth mewn is-etholiad yn 2011, ac mae Catrin Wager a Steve Collings yn gynghorwyr ers yr etholiad diwethaf yn 2017.
Yn ôl Steve Collings, sy’n gynghorydd dros ward Deiniol yng nghanol Bangor, ‘cyfiawnder cymdeithasol’ yw ei brif ddiddordeb yn y byd gwleidyddol, ac mae ei frwdfrydedd dros degwch yn amlwg yn ei wath diwyd gyda chynllun bwyd am ddim Bwyd i Bawb Bangor.
Mae gan Steve hanes lliwgar cyn ei yrfa fel cynghorydd, ac fe ysgrifenwyd portread ohono mewn erthygl ar Golwg360 yn ddiweddar, yn dogfennu ei fywyd o Balesteina i Fangor. Gallwch ei darllen yma.
Mae Elin Walker-Jones sy’n cynrychioli ward Glyder ym Mangor ac sy’n seicolegydd clinigol yn dweud mai ‘diddordeb i wella darpariaeth Gymraeg ym mhob agwedd o fywydd’ oedd ei phrif ysgogiad i sefyll fel cynghorydd. Enillodd Elin ei sedd mewn is-etholiad yn 2011.
Mae Catrin Elen Wager, sy’n cynrychioli sedd amrywiol Menai ym Mangor Uchaf yn un o gynghorwyr mwyaf newydd Bangor, wedi iddi gipio’r sedd oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol yn 2017. Dywedodd wrth BangorFelin360 mai ei gwaith yn cefnogi ffoaduriaid a wnaeth iddi ystyried sefyll fel cynghorydd. Mae wedi bod yn weithgar iawn gydag elusen Pobl i Bobl, ac yn ôl Catrin, “Ro’n i eisiau gweithredu a chreu newid, er gwell.”
Ymhen 6 mis bydd pobol Bangor yn ethol eu cynghorwyr lleol.
O dan arweiniad Catrin Wager, mae criw o gynghorwyr ar Gyngor Gwynedd wedi dod at ei gilydd er mwyn sicrhau bod “amrywiaeth iach” o ymgeiswyr yn camu i’r adwy yn etholiadau’r flwyddyn nesaf.
Heno cynhelir Dos Amdani, sesiwn anffurfiol i’r rhai sy’n ystyried sefyll yn Etholiadau’r Cyngor flwyddyn nesaf.
Mae croeso i bawb i’r sesiwn, cyn belled â’u bod yn cofrestru drwy ddilyn y ddolen hon.