? Calan Gaeaf Maes Berea

Llwybr pwmpenni a thai sbwci Bangor

gan Osian Owen
Untitled-design-7Claire Goodall

Diolch i Claire Goodall a Gail Sutherland am weithio gyda chymuned Maes Berea, Bangor i drefnu gweithgareddau Calan Gaeaf ar y stad.

Trefnodd y ddwy weithgareddau Covid-gyfeillgar, gan herio trigolion y stad i greu llwybr pwmpenni ac i addurno eu tai.

Roedd nifer o dai’r stad yn rhan o’r gystadleuaeth, gyda 3 tŷ yn derbyn gwobr. Y beirniad oedd y Cyng. Gareth Roberts ac fe roddwyd y 3edd a’r 2il wobr gan siop B&M, a rhoddwyd y brif wobr gan siop Matalan.

Llongyfarchiadau i’r enillwyr!