Gydag UNESCO ar fin cyhoeddi a fydd ardaloedd chwarelyddol Gwynedd yn derbyn statws Safle Treftadaeth y Byd ai peidio, mae Cylch yr Iaith yn rhyfeddu bod Cyngor Gwynedd yn dweud nad oes gan yr enwebiad ddim i’w wneud â thwristiaeth.
Meddai’r Cyng. Gareth Thomas, yr Aelod sy’n cynrychioli’r cyhoedd ar gabinet y Cyngor ym meysydd twristiaeth a’r economi, “Rhaid i mi bwysleisio unwaith eto nad cynllun twristiaeth ydi’r enwebiad treftadaeth byd, mae’n gynllun i ddathlu ein cyfraniad wrth doi’r byd a chael hyder yn ein cymunedau i sbarduno datblygiad economaidd a chymdeithasol.”
Beth bynnag fo gobaith y cyngor sir, meddai’r mudiad, rhaid cydnabod yn onest y byddai ennill statws Safle Treftadaeth y Byd yn cynyddu twristiaeth i’r ardaloedd dan sylw. Ac o ran y bwriad i ‘sbarduno datblygiad economaidd’, mae’n ymddangos mai datblygiadau twristaidd sydd ar gynnydd drwy’r sir.
Pryder Cylch yr Iaith yw bod Gwynedd eisoes yn dioddef oddi wrth effeithiau gor-dwristiaeth, ac y byddai niferoedd ymwelwyr i ardaloedd y llechi yn cynyddu gan ddwyn mwy o effeithiau negyddol yn cynnwys cynnydd mewn ail gartrefi a thai gwyliau tymor-byr, ynghyd â chynnydd yn y mewnlifiad Saesneg. Rhaid cofio bod ardaloedd y llechi yn ffinio â Pharc Cenedlaethol Eryri, ac mae cyrchfannau gwyliau mynyddig yn teimlo pwysau gormodol ers tro, fel cyrchfannau y mae’r arfordir.
Mynegwyd yn ddiweddar y gobaith y byddai math gwahanol o ymwelwyr yn dod i ardaloedd y llechi yn sgîl derbyn statws Safle Treftadaeth y Byd – ymwelwyr efo diddordeb mewn hanes ac mewn hen safleoedd diwydiannol, ond eto dylid cofio bod ymwelwyr o’r fath yn fwy cefnog at ei gilydd ac efo’r modd i fuddsoddi mewn ail gartref. Mae profiad ardaloedd eraill o fewn y sir yn dangos sut y mae cymeriad ac iaith cymuned yn cael eu newid o ganlyniad i ddatblygiadau twristaidd anghydnaws.
Mae Cylch yr Iaith wedi galw o’r cychwyn ar y cyngor sir i gryfhau polisïau i ddiogelu sefyllfa’r Gymraeg fel iaith gymunedol er mwyn gwrthweithio ac atal effeithiau niweidiol ymestyn twristiaeth yn yr ardaloedd chwarelyddol. Mae hynny’n golygu cryfhau amodau ieithyddol a chymunedol ceisiadau cynllunio; gosod mesurau er mwyn gwarchod yr ardaloedd rhag i gyrff fel Croeso Cymru a’r cwmni Twristiaeth Gogledd Cymru gam-ddefnyddio’r statws i’w dibenion eu hunain; a sicrhau bod gan gynghorau cymuned yr ardaloedd dan sylw ran a llais uniongyrchol yn rheolaeth y cynllun, gan gynnwys y penderfyniadau ynghylch cyfeiriad a strategaeth a phenderfyniadau ynglŷn â chymeradwyo datblygiadau unigol.