gan
William Owen
Fydd hi ddim yn hir cyn y bydd Stryd Fawr Bangor ar agor. Roedd y Cyngor Sir wedi addo y byddai’r gwaith ar dynnu’r sgaffaldiau yn dod i ben ym mis Mai. Mae’r ddau adeilad a losgodd flwyddyn a hanner yn ôl wedi dod i lawr. Eu clirio y mae’r gweithwyr erbyn hyn.
Erbyn mis Mehefin mae gobaith y bydd i gerbydau fynd ar hyd y stryd eto.