Mae Ysgol Glanaethwy yn bwriadu “dathlu dychweliad araf yn ôl i’r llwyfan” gyda’u llwyfaniad o un o ddramâu William Shakespeare’r wythnos hon.
Bydd y perfformiad yn digwydd yn yr awyr agored, a hynny ar dir Ysgol Glanaethwy.
Yn ôl y Cyfarwyddwr Cerddorol Cefin Roberts “hon yw’r ddrama fwyaf ffantasïol a sgwennodd William Shakespeare erioed”, a bydd yr ysgol berfformio ym Mangor yn llwyfannu cyfieithiad Gwyn Thomas o’r ddrama.
Llwyfennir y ddrama mewn arddull bromenâd, ac mae croeso i’r sawl sy’n mynychu ddod â phicnic eu hunain.
Bydd y perfformiadau yn dechrau am 7pm ar nosweithiau Awst 11, 12, 13 a 14. Mae’r tocynnau’n costio £10 i oedolion a £5 i blant ysgol, ac er y bydd taliadau’n cael eu cymryd ar y noson, nifer cyfyngedig o seddau sydd ar gael felly mae’n bwysig hysbysu Ysgol Glanaethwy o’ch bwriad i fynychu.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am archebu, canllawiau Covid-19, a rhagofalon tywydd, dylech gysylltu â Rhian o Ysgol Glanaethwy ar glanaethwy@hotmail.com.