Cyngor Gwynedd yn cefnogi galwad am Ysgol Ddeintyddol ym Mangor

Pasiwyd y cynnig gan y Cyngor Llawn

Siân Gwenllian
gan Siân Gwenllian

Mae Cyngor Gwynedd wedi pleidleisio i gefnogi galwad Siân Gwenllian AS i sefydlu Ysgol Deintyddiaeth ym Mangor.

 

Pasiwyd cynnig a gyflwynwyd yn y cyngor llawn, ac mae’n nodi, ymhlith pethau eraill:

 

‘y prinder sylweddol o wasanaethau deintyddol y GIG yng Ngogledd Cymru, a bod achos cryf ar gyfer sefydlu Ysgol Ddeintyddol ym Mangor.

 

[Bod] nifer sylweddol o fyfyrwyr sy’n dymuno astudio deintyddiaeth yn gorfod gadael

Cymru oherwydd diffyg capasiti mewn ysgolion deintyddol.

 

‘Gallai ysgol ddeintyddol newydd ym Mangor chwarae rôl allweddol wrth hyfforddi mwy o ddeintyddion yn lleol, gan gynnig gwell siawns o gadw’r gweithlu deintyddol yn y rhanbarth a darparu gwasanaethau hanfodol yn lleol.’

 

Aeth y cynnig ymlaen i alw ar y Cyngor i gefnogi’r ymgyrch i sefydlu Ysgol Deintyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor.

 

Cyflwynwyd y cynnig gan y Cyng. Elin Walker Jones sy’n cynrychioli ward Glyder ym Mangor ar Gyngor Gwynedd. Yn ôl Elin:

 

“Rydan ni i gyd yn gwybod bod argyfwng ym maes deintyddiaeth.

 

“Mae teuluoedd cyfan yn methu â chael apwyntiadau, a phenllanw’r argyfwng yw problemau iechyd hirdymor, ac yn yr achosion mwyaf eithafol, pethau fel sepsis.

 

“Mae recriwtio mwy o ddeintyddion yn ffordd ymarferol o fynd i’r afael â’r argyfwng, a lle gwell na Bangor? Mae Arfon yn ardal sy’n gyfuniad o’r trefol a’r gwledig. Yn ogystal â hynny, mae’n ardal Gymraeg, felly byddai deintyddion yn graddio gyda’r sgiliau llawn sydd eu hangen i wasanaethu’r ardal hon.

 

“Mae’r dystiolaeth yn glir – byddai Ysgol Ddeintyddol yn ychwanegiad synhwyrol i’r addysg feddygol sydd eisoes ar gael ym Mangor!”

 

Siân Gwenllian yw Aelod Senedd Arfon sy’n cynnwys Bangor. Mae hi wedi ymgyrchu ers tro dros Ysgol Deintyddiaeth yn y ddinas ac mae’n dadlau y byddai ysgol o’r fath yn ychwanegiad pwysig i’r Ysgol Feddygol a agorwyd yn ddiweddar ac yn atgyfnerthu statws Bangor fel canolfan ragoriaeth genedlaethol ar gyfer hyfforddiant meddygol.

 

Mae hi wedi croesawu’r bleidlais yng Nghyngor Gwynedd:

 

“Mae cefnogaeth Cyngor Gwynedd i fy ngalwad am sefydlu Ysgol Ddeintyddol ym Mangor yn gam ymlaen yn ein hymgyrch.

 

“Ym mis Medi fe welson ni benllanw blynyddoedd o ymgyrchu a misoedd o ymchwil gyda lansiad swyddogol fy adroddiad ‘Llenwi’r Bwlch: Yr achos dros hyfforddi deintyddion ym Mangor’

 

“Roedd canfyddiadau’r adroddiad yn glir: mae achos cadarn ar gyfer ail Ysgol Deintyddiaeth yng Nghymru, ac yn benodol iddi gael ei sefydlu ym Mangor.

 

“O safbwynt iechyd cyhoeddus a’r achos economaidd dros yr ysgol, mae arbenigwyr yn y maes a phartneriaid lleol yn glir bod angen i’r datblygiad hwn ddigwydd.

 

“Dwi’n croesawu penderfyniad Cyngor Gwynedd i gefnogi fy ymgyrch a dwi’n annog eraill i ychwanegu eu llais at yr ymgyrch, naill ai drwy ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu drwy lofnodi fy neiseb.”

Dweud eich dweud