Radio Ysbyty Gwynedd ar y rhestr fer ar gyfer tair gwobr yng Ngwobrau Radio Ysbytai Cenedlaethol!

Gorsaf Radio’r Flwyddyn 2022 wedi ei henwebu am Orsaf Radio’r Flwyddyn 2023!

Sarah Wynn Griffiths
gan Sarah Wynn Griffiths
Radio Ysbyty Gwynedd

Rhai o’r gwirfoddolwyr gyda’u tlws ‘Gorsaf y Flwyddyn 2022’

Paul Hughes - Radio Ysbyty Gwynedd

Paul Hughes – Radio Ysbyty Gwynedd

Yvonne Gallienne - Radio Ysbyty Gwynedd

Yvonne Gallienne – Radio Ysbyty Gwynedd

Mae gorsaf radio ysbyty lleol Radio Ysbyty Gwynedd ym Mangor wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer tair gwobr yng ngwobrau mawreddog Radio Ysbytai Cenedlaethol 2023.

Mae’r orsaf radio a gafodd ei enwi’n ‘Gorsaf y Flwyddyn 2022’ wedi’i enwebu ar gyfer y wobr ‘Gorsaf y Flwyddyn 2023’ ynghyd â’r cyflwynydd Paul Hughes am ‘Cyflwynydd y Flwyddyn’ ac Yvonne Gallienne am wobr ‘Cyflwynwraig y Flwyddyn’.

Yn ddiweddar, enillodd Radio Ysbyty Gwynedd y wobr Efydd yng Ngwobrau Radio Cymunedol Cenedlaethol 2022 ar gyfer ‘Gorsaf Ddigidol y Flwyddyn’, ar ôl cael ei chydnabod yn y 5 uchaf yn y DU yn 2021 a 2020. Ym mis Awst 2022, roedd yr orsaf yn falch iawn o gael ei henwi’n ‘Gorsaf y Flwyddyn 2022’ gan y Gymdeithas Ddarlledu Ysbytai 2022.

Mae Kevin Williams, Cadeirydd Radio Ysbyty Gwynedd wedi’i syfrdanu gyda’r gydnabyddiaeth “Fel gorsaf, rydym yn hynod o falch o gael ein henwebu ar gyfer tair gwobr yng Ngwobrau Radio Ysbytai Cenedlaethol 2023. I ennill y wobr fawreddog ‘Gorsaf y Flwyddyn 2022’ a nawr cael ein henwebu ar gyfer ‘Gorsaf y Flwyddyn 2023’, mae hyn yn dangos sut rydym ni fel gorsaf wedi parhau i gynnal ein safon broffesiynol uchel o ddarlledu yn ogystal â recriwtio gwirfoddolwyr newydd a datblygu ein hamserlen raglennu. Mae ein tîm o wirfoddolwyr a chyflwynwyr yn gweithio mor galed ar eu rhaglenni ac ar redeg ein gorsaf. Rwyf mor hapus bod ein cysondeb fel gorsaf wedi’i gydnabod a’n hymroddiad wrth ddarlledu i’n cleifion a’n cymuned ehangach. Llongyfarchiadau enfawr i’n tîm ac i Paul ac Yvonne ar eu henwebiadau ar gyfer y cyflwynwyr gorau, yn haeddiannol iawn”.

Cyhoeddodd Alan Dedicaot, llais y Loteri Genedlaethol, Strictly Come Dancing a Dancing with the Stars y rhestr fer Gwobrau Radio Ysbytai Cenedlaethol 2023 yn fyw ar sianel YouTube y Gymdeithas Darlledu Ysbytai.

Bydd y Gwobrau Radio Ysbytai Cenedlaethol 2023  yn cael eu cynnal yn Bolton mis Mawrth 2023.

Mae Radio Ysbyty Gwynedd wedi bod yn darlledu ers 1976 a dathlodd ei benblwydd yn 46 y llynedd. Gall cleifion Ysbyty Gwynedd wrando ar Radio Ysbyty Gwynedd ar sianel 1 ar eu clustffonau. Gall ein cymuned ehangach wrando ar-lein: www.radioysbytygwynedd.com ac ar Ap Radio Ysbyty Gwynedd.