Merched Felinheli yn ennill cwpan Arfordir Gogledd Cymru

Curo Llandudno yn y ffeinal

gan Gwilym John
IMG_3943-copy

Genod Felin yn codi’r gwpan

IMG_3872

Ffion yn hapus ar ol sgorio trydydd gôl Felin

Cwpan Arfordir Gogledd Cymru

Sul Ebrill 16eg

CPD Y Felinheli 3 Llandudno 2

Cipiodd merched CPD Y Felinheli y gwpan ar brynhawn Sul heulog ar Faes Dulyn, Penygroes.

Aeth Felin 3-0 ar y blaen, ac yn edrych yn eithaf cyffyrddus. Ond efallai eu bod wedi tynnu y droed oddi ar y sbardun ychydig, gan i Landudno ddod yn ol yn gryf gan sgorio dwy gôl, a creu diweddglo cynhyrfus i’r gêm.

Ond cadwodd y genod eu pennau, ac yn wir bu bron iddynt sgorio un arall. Ond roedd rhyddhad pan ddaeth y chwiban olaf, ac aeth chwaraewyr, swyddogion, a’r cefnogwyr niferus yn wyllt. A bu dathlu mawr, wrth reswm.