Felin a Llangefni yn rhannu’r pwyntiau

Gêm gyfartal gynta’r tymor i Felin

gan Gwilym John

Cynghrair “Ardal Gogledd Orllewin FitLock”

CPD Y Felinheli 2 Llangefni 2

Oherwydd y tywydd, bu rhaid gohirio ddwy ge3m fawr mis IOnawr, yn erbyn Bangor 1876 a Rhyl 1879. Gêm arall ddyla fod wedi ei gohirio (o safbwynt Felin, beth bynnag) oedd y stîd 8-0 yn Ninbych ar noson rhewllyd iawn.

Ond Llangefni oedd yr ymwelwyr ddiwedd Ionawr i gêm gyntaf yn Seilo ers canol Tachwedd. Roedd y ddau glwb angen yn pwyntuiau ond bu rhaid bodlonni efo pwynt yr un ar ol gêm gystadleuol a chaled.

Aeth Felin ar y blaen ar ol 9 munud, croesiad Ryan Cane yn cael ei phenio yn gadarn i’r rhwyd gan Tom Davies (gweler y fideo). Daeth yr ymwelwyr yn gyfaral cyn hanner amser. Ond sgoriodd Gruff John o’r smotyn ryw awr i fewn i’r gêm i roi Felin ar y blaen, ac edrychai petha yn dda i’r tîm cartref.

Ond och a gwae, penderfynnodd y reff (oedd yn hollol pedantig) i roi ail felyn i Gruff am rywbeth nad oedd neb arall wedi ei weld, a bu rhaid i Felin chwarae chwarter olaf y gêm gyda deg dyn.

Cafodd Llangefi gôl o gic rhydd ardderchog Matty Jones i ddod yn gyfartal, ac er fod Felin wedi gorfod bwrydro yn galed, llwyddon nhw i ddal yr ymwelwyr, ac os rywbeth, fasa nhw wedi cipio’r tri-phwynt. Ond 2-2 yn y diwedd. Gêm dda gystadleuol i ddiddanu tyrfa dda. Felin yn methu cyfle i fynd i’r seithfed safle yn y tabl.

Oddicartref yn Saltney Sadwrn nesaf, gêm bwysig arall.