Wythnos o lwyddiannau yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Llongyfarchiadau mawr i holl gystadleuwyr Bangor a’r Felinheli yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022

gan Catrin Elain Roberts
Many Lili Robin
Cai Fôn Davies
Glanaethwy
Sioned Erin Hughes
Esyllt Maelor
Meinir Pierce Jones

Braf iawn oedd croesawu’r Eisteddfod Genedlaethol yn ôl yr wythnos ddiwethaf yn Nhregaron, Ceredigion. Llongyfarchiadau mawr iawn i bawb o ardal Bangor a’r Felinheli a wnaeth gystadlu yn y Brifwyl eleni.

Ar ddydd Sul cyntaf yr Eisteddfod, daeth Côr Glanaethwy i’r brig yn y gystadleuaeth Perfformiad Gwreiddiol o dan y thema ‘Trafferth mewn Tafarn’ neu ‘Llwybrau’. Bu iddynt hefyd berfformio’n wych gydag ‘Yn y Dechreuad’ yn y gystadleuaeth Côr Adloniant.

Cafodd Manw Lili Robin, sy’n ddisgybl yn Ysgol Tryfan, chwip o wythnos yn yr Eisteddfod eleni. Daeth yn 1af yn y gystadleuaeth Unawd Cerdd Dant 16 ac o dan 21 oed, yn 2il yn y gystadleuaeth Monolog 16 ac o dan 19 oed, ac yn 3ydd yn y gystadleuaeth Unawd o Sioe Gerdd o dan 19 oed – llongyfarchiadau gwresog iddi!

Ar ddydd Mawrth yr Eisteddfod, daeth mwy o lwyddiannau i Fangor wrth i Lisa Morgan o Ysgol Tryfan ddod yn 3ydd yn y gystadleuaeth Unawd Piano 16 ac o dan 19. Yn ogystal, bu i ‘Encôr’ sy’n cynnwys sawl aelod o Fangor gipio’r 2il wobr yn y gystadleuaeth Côr i rai 60 oed a throsodd.

Mewn seremoni yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni cafodd deunaw aelod o brif enillwyr yr Urdd eu hurddo i’r Orsedd gan gynnwys nifer o fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor. Urddwyd Kayley Sydenham, Mared Fflur Jones, Ioan Wynne Rees, Sioned Erin Hughes, a Cai Fôn Davies i’r Urdd Ofydd.

Daeth Cai Fôn Davies hefyd i’r brig yn y cystadlaethau Llefaru Unigol Agored ac Unawd Sioe Gerdd 19 oed a throsodd. Yn ychwanegol, daeth yn 2il yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa y Fonesig Ruth Herbert Lewis 21 oed a throsodd, ac yn 3ydd yng nghystadleuaeth Gwobr Aled Lloyd Davies gydag Unawd Cerdd Dant 21 oed a throsodd. Mae Cai hefyd yn aelod o Gôr Alawbama yr Urdd a ddaeth yn 3ydd yn y gystadleuaeth Côr Adloniant gyda’u perfformiad o ‘Gad i’r Ddaear Droi’ – da iawn wir!

Ymhlith y derwyddon newydd a gafodd eu hurddo yn y Brifwyl eleni oedd Dr Gareth Evans-Jones, darlithydd Athroniaeth a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor. Yn y Babell Lên bu i Gareth sôn am ei gyfrol newydd ‘Cylchu Cymru: Ymateb i leoliadau ar draws Cymru drwy lenyddiaeth greadigol’. Fel rhan o weithgareddau ‘Mas ar y Maes’ sy’n hybu’r berthynas rhwng y gymuned LHDTC+ a’r Eisteddfod, bu i Gareth hefyd gynnal sgwrs ‘Y Ddraig Amryliw’ gydag eraill megis Iestyn Wyn a Siwan Rosser.

Yn ogystal i’r cystadlaethau llwyfan, cafwyd wythnos ragorol yn Nhregaron i dair o gyn-fyfyrwyr creadigol Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Llongyfarchiadau mawr i’r Prifardd Esyllt Maelor ar ennill y Goron, i Meinir Pierce Jones ar ennill Gwobr Goffa Daniel Owen ac i’r Prif Lenor Sioned Erin Hughes ar ennill y Fedal Ryddiaith.

Daeth Esyllt Maelor i’r brig yng nghystadleuaeth y Goron eleni o dan y ffugenw ‘Samiwel’. Cafodd y Goron ei chyflwyno yn Nhregaron eleni am bryddest neu gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd, hyd at 250 o linellau, ar y pwnc ‘Gwres’. Y beirniaid eleni oedd cyn-enillwyr y Goron; Cyril Jones, Glenys Mair Roberts a Gerwyn Wiliams. Wrth ddarllen gwaith Esyllt, mynegodd Gerwyn ei fod yn “ddieiriau” ac roedd y beirniaid oll yn unfrydol mai Esyllt oedd yn haeddu dod yn fuddugol. Dywedwyd ei bod hi’n fraint cael coroni “dewin geiriau go iawn”. Bridfa Ryngwladol Cobiau Cymreig Derwen wnaeth roi’r goron eleni ac Ifor a Myfanwy Lloyd o’r fridfa roddodd y wobr ariannol o £750.

Derbyniodd Meinir Pierce Jones o dan y ffug enw ‘Polly Preston’ Wobr Goffa Daniel Owen am ei nofel ‘Capten’ mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn brynhawn dydd Mawrth. Amcan y gystadleuaeth eleni oedd cyflwyno nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau. Y beirniaid oedd Manon Steffan Ros, Emyr Llywelyn ac Ioan Kidd. Roedd y disgwyliadau’n uchel, ond mynegodd Manon “Gwirionais fy mhen yn syth â’r nofel hyfryd hon, a methais ei rhoi i lawr. Mae’n anodd meddwl am unrhyw nofel debyg i hon, ond teimlaf fod cryfder y cymeriadau a’u perthynas nhw gyda’u cymunedau yn fy atgoffa o grefft Kate Roberts”, meddai. “Does dim amheuaeth gen i mai ‘Capten’ ydy nofel orau’r gystadleuaeth eleni. Mae hi’n hyfryd, hyfryd, hyfryd o nofel”, pwysleisiodd. Yn rhoddedig gan Gareth, Cerys a Betsan Lloyd, Talgarreg, cyflwynwyd Medal Goffa Daniel Owen a £5,000 gan Brifysgol Aberystwyth i Meinir.

O dan y ffug enw ‘Mesen’, daeth yr awdur ifanc, Sioned Erin Hughes, i’r brig yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion eleni gyda’i storïau dan y teitl ‘Rhyngom’. Graddiodd Erin mewn Cymdeithaseg a Chymraeg ym Mhrifysgol Bangor, cyn astudio cwrs Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol dan arweiniad yr Athro Gerwyn Wiliams. Cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun ‘Dianc’ oedd amcan y gystadleuaeth. Y beirniaid eleni oedd Meg Elis, Dylan Iorwerth ac Eurig Salisbury ac roedd y tri’n unfrydol mai ‘Mesen’ oedd yn deilwng o’r Fedal Ryddiaith. Pwysleisiodd Meg Elis mai “Cryfder Mesen yw’r gallu i daflu goleuni ar y berthynas rhwng pobl â’i gilydd, ac y mae wedi llwyr addysgu’r wers y talai i lawer o’r ymgeiswyr eraill ei rhoi ar gof a chadw – ‘dangos, nid dweud’.” Cyflwynwyd y Fedal, yn ogystal â gwobr ariannol o £750, iddi ar lwyfan y Pafiliwn ddydd Mercher.

Mae eu gwaith i’w darllen yn y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau.

Llongyfarchiadau mawr hefyd i gyn-fyfyriwr Bangor, Edward Rhys Harry ar ennill Tlws y Cerddor eleni o dan y ffugenw ‘Picard’! Y dasg eleni oedd creu opera fer o un gân gorws a dwy gân i unawdwyr ynghyd ag amlinelliad cryno o’r opera gyfan, gan ddefnyddio geiriau Cymraeg gwreiddiol neu rhai sy’n bodoli eisoes. Y wobr oedd Tlws y Cerddor (Cymdeithas Cerddoriaeth Cymru) a £750 (Gofalaeth Asedau Sterling Asset Management) ac Ysgoloriaeth gwerth £2,000 i hyrwyddo gyrfa’r cyfansoddwr buddugol. Y beirniaid oedd Gwion Thomas, John Metcalf a Patrick Young. Mae Edward yn cyfansoddi’n rheolaidd ar gyfer byd teledu, gyda’i gerddoriaeth i’w chlywed ar S4C, Sky Sports ynghyd â hysbysebion ar ITV. Edward yw Cyfarwyddwr Artistig Côr Siambr Cymru/Chamber Choir Wales, côr siambr proffesiynol ad hoc, yn ogystal â ‘The Harry Ensemble’. Mae hefyd wedi arwain mewn gwyliau cerdd ym Melbourne Awstralia, Trevelin ym Mhatagonia a Pennsylvania, Boston, Philadelphia ac Efrog Newydd yn yr Unol Daleithiau.