Trigolion Bangor a’r Felinheli, ’da ni angen eich help!

Cyfle i ddod â BangorFelin360 i’r brig yn y brif wobr

gan Tomos Owen
felinheli

Mae Blog byw Gŵyl Bro Y Felinheli wedi’i enwebu am y wobr ‘barn y bobl’ sy’n rhan o wobrau Bro360 2022.

Fedwch ni gael stori Felin i’r brig?!

Dyma’ch cyfle chi i helpu BangorFelin360 i ennill Barn y Bobol eleni, wrth bleidleisio am y blog rhwng rŵan ac amser cinio 28 Ionawr.

 

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar Facebook Live Bro360 am 8pm nos Wener 28ain.

Yn ogystal, mae BangorFelin360 wedi cael ei enwebu am wobr Fideo y flwyddyn.

Cadwch lygad ar y cyfryngau i glywed pwy sy’n dod i’r brig!