Trafferthus a chostus

Cwyno am y diffyg gwasanaeth gan HSBC Bangor

gan Marian

Does dim modd talu arian parod bellach i gyfrif canolog yr Eisteddfod Genedlaethol ym Manc yr HSBC ar Stryd Fawr Bangor. Mae hyn yn achosi trafferth a chost ychwanegol i drysorydd Pwyllgor Apêl Bangor, Pentir a Phenrhosgarnedd, pwyllgor sy’n codi arian tuag at Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023.

Ers i’r banc benderfynu newid y gwasanaeth sydd ar gael yn y gangen ar y Stryd Fawr gan gau y cownteri traddodiadol mae’n rhaid i’r trysorydd sy’n byw ym Mangor deithio i Langefni neu Gaernarfon i dalu arian parod i gyfri’r Eisteddfod.

Dyma ymateb gan yr HSBC

“Ar adegau mae angen i ni wneud newidiadau i’n rhwydwaith o ganghennau i wneud yn siŵr ei fod yn gynaliadwy ac yn addas ar gyfer y dyfodol.

Fel rhan o’n buddsoddiad mewn moderneiddio cangen Bangor, y newid mwyaf y mae cwsmeriaid wedi’i weld yw cael gwared ar gownter, a all olygu y gallai bancio gael ei wneud mewn ffordd ychydig yn wahanol. Bydd bron yr holl wasanaethau a gynigwyd gan y gangen yn flaenorol yn cael eu cynnal.”

Yn naturiol, er yr anhwylustod mae trysorydd y pwyllgor eisiau pwysleisio ei fod yn barod iawn i dderbyn arian parod tuag at yr apêl yn lleol, ond yn gwaredu at y diffyg gwasanaeth gan HSBC ym Mangor.