Stŵr wrth y Dŵr yn ei ôl!

Dechreuwch ymarfer

Gŵyl y Felinheli
gan Gŵyl y Felinheli
7479742294_3b571120c1_w

Stŵr wrth y Dŵr – ddegawd yn ôl!

Mae Gŵyl y Felinheli yn cyhoeddi heddiw y bydd Stŵr Wrth y Dŵr, sioe dalent arbennig yr ŵyl yn ei ôl yn ystod wythnos yr ŵyl yn 2022.

Mae’r ŵyl yn dychwelyd yn 2022 ar ôl gorfod canslo’r ŵyl yn 2020 a 2021.

Mae’r wythnos (a mwy!) o ddigwyddiadau yn cael ei chynnal eleni rhwng 24 Mehefin – 2 Gorffennaf 2022, ac yn y gorffennol mae sioe dalent arbennig wedi cael ei chynnal.

Ac eleni mae Stŵr wrth y Dŵr yn ei ôl, ac mae pwyllgor yr ŵyl yn galw ar bobol y pentra i ddechrau meddwl am gyfraniadau.

Mae gynnoch chi 6 mis, felly does ’na DDIM esgus!