Sioe Tân Gwyllt-Dinas Bangor

Cangen Bangor o Blaid Cymru

Gareth Parry
gan Gareth Parry

Mae’r sioe Tân Gwyllt eleni ym Mangor yn wahanol am nifer o resymau.

Cyn Covid, roedd grwpiau amrywiol o fewn Bangor yn arfer dod at ei gilydd i greu sioeau tân gwyllt ym mis Tachwedd.

Yn anffodus nid yw rhai o’r trefnwyr gwych hynny gyda ni bellach.

Felly mae Cynghorwyr Cyngor Dinas Bangor wedi penderfynu cynnal sioe tân gwyllt gyda Dr Martin Hanks, einCyfarwyddwr Dinesig newydd, yn drefnydd.

Ein bwriad yw dod â’n cymunedau ym Mangor at ei gilydd ar gyfer digwyddiadau fel y rhain i gryfhau eincymunedau er gwaethaf y caledi a wynebodd pobl Bangor yn ystod y pandemig a’r dyddiau anodd sydd i ddodgydag effaith yr argyfwng costau byw.

Felly ymunwch â ni a dewch â ffrind/cymydog gyda chi ar Dachwedd 6ed i Ffordd y Traeth i ddathlu ein cymunedryfeddol ym Mangor.

Yma o Hyd

Cangen Bangor o Blaid Cymru