Siân ym Mangor!

Isio bwrw bol?

gan Osian Owen

Bydd AS Bangor, Siân Gwenllian, yn cynnal ei chymorthfa nesaf ym Mangor.

Mae cymorthfeydd yn rhoi cyfle i Aelodau’r Senedd gyfarfod wyneb-yn-wyneb â’u hetholwyr, yn ogystal â bod yn gyfle i drafod materion lleol.

Yn ôl Siân:

“Mae cymorthfeydd wyneb yn wyneb yn rhan bwysig o ‘ngwaith, ond mi ddaethon ni i ben yn ddisymwth ym mis Mawrth 2020. Ers hynny bu’n rhaid delio â materion etholwyr yn rhithiol neu dros y ffôn.

“Cafodd cymorthfeydd stryd eu hailgyflwyno’n raddol, ond rŵan gallwn ddychwelyd i gynnal cymorthfeydd mewn canolfannau cymunedol ar draws Arfon.

“Mae llond llaw o’r cymorthfeydd hyn eisoes wedi’u cynnal, a’r wythnos nesaf byddwn yn ymweld â Bangor.”

Cymhorthfa gyda Siân Gwenllian AS 28 Hydref ym Mangor.

Dylai’r sawl sy’n dymuno trefnu apwyntiad ffonio swyddfa ar 01286 672076, neu drwy e-bostio sian.gwenllian@senedd.cymru.