SEFYDLU PWYLLGOR APÊL BANGOR

Angen codi £20,000 tuag at Eisteddfod Genedlaethol 2023

gan Marian

Cyngerdd Eisteddfod Genedlaethol 2018

Y flwyddyn nesaf bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld â Boduan ger Pwllheli, ac mae targed i godi arian ar ei chyfer wedi’i roi i bob ardal yn Nwyfor ac Arfon. Targed dinas Bangor yw £20,000 – sy’n swm sylweddol – ac mae’r amser i’w gyrraedd yn prysur brinhau.  

Mae cyfarfod rhithiol byr wedi’i drefnu i sefydlu Pwyllgor Apêl Dinas Bangor: 

Nos Fercher, Mawrth 2 am 7.00yh 

Dolen Zoom: https://us04web.zoom.us/j/79996311938?pwd=WhrgNjAiOrHqjE1kSgd8CdQPtdKW7p.1 

Meeting ID: 799 9631 1938 

Passcode: 565386 

neu gyrrwch neges at catrinelis@aol.com i dderbyn y ddolen yn electronig.  

Os oes ganddoch chi syniadau am weithgareddau codi arian o unrhyw fath, ac awydd bod yn rhan o griw hwyliog i helpu efo’r gwaith, ymunwch â’r cyfarfod (ac anogwch eich ffrindiau i ymuno hefyd!). 

Os na allwch fod yn bresennol y tro hwn, gyrrwch neges i’r cyfeiriad uchod er mwyn derbyn manylion y cyfarfod nesaf.