Rhwystredigaeth i CPD Y Felinheli

Colli 1-0 yn Llanelwy

gan Gwilym John

Cynghrair “Lockstock” Ardal Gogledd Orllewin

Dinas Llanelwy 1  CPD Y Felin 0

Chwefror 12ed, 2022

Yn chwarae i fewn i’r gwynt hanner cyntaf, ddyla Felin wedi bod o leiaf ddwy gôl ar y blaen erbyn hanner amser, yn methu dau neu dri cyfle euraidd. Ond Llanelwy aeth ar y blaen, gol ddigon bler yn dilyn chydig o sgrambyl o flaen y gôl.

Roedd y gwynt efallai yn gryfach erbyn i Felin gychwyn yr ail hanner. Ond er tra-arglwyddiaethu o ran y meddiant, ni lwyddodd Felin i fanteisio ar y gwynt i’w cefnau. O bosib roeddynt yn ceisio chwarae peldroed rhy glefar yn lle jest taro’r bel yn galed tuag at gôl y tim cartref. Haws dweud na gwneud mae’n debyg.

Cafwyd ambell i gyfle ac ambell cynnig agos, ond ar y cyfan, chafodd y golgeidwad cartref fawr ddim i’w drafferthu. A mwya’n y byd oedd yr amser yn tician, y mwyaf rhwystredig oedd hogia Felin yn mynd.

A bu rhaid i gapten Felin, Aled Griffith, adael y cae a mynd yn syth i’r ysbyty ar ol anaf cas iawn i’w ysgwydd. Gwellhad buan iddo, a gobeithio fydd o yn ol yn chwarae cyn gynted a phosib.

Colli gêm pwysig yn erbyn tîm oedd yn is na Felin yn y tabl, gêm oedd yna i’w hennill. Ond nid oedd y duwiau efo Felin heddiw.

Gweler clip fideo yn dangos pa mor agos ddaeth Dylan i benio Felin yn gyfartal, un o gyfleon yr ail hanner.

Gêm ddigon anodd wythnos nesaf, gartref yn erbyn yr Wyddgrug, sydd ar frig y tabl, yn cychwyn 2:00 p.m.