AS yn rhoi help llaw i gynllun bwyd lleol wrth i alw gynyddu

Mae Bwyd i Bawb Bangor wedi gweld cynnydd cyson yn nifer y defnyddwyr ers ei sefydlu yn 2018

gan Osian Owen

Bu Siân Gwenllian AS yn rhoi help llaw i gynllun bwyd lleol wrth i ddefnydd o gynlluniau o’r fath gynyddu o ganlyniad i’r argyfwng costau byw.

 

Mae’r Aelod o’r Senedd yn cynrychioli etholaeth Arfon, ac mae ei swyddfa yn ninas Bangor yn gartref i gynllun Bwyd i Bawb Bangor.

 

Mae’r prosiect yn un o bron i 9,500 o elusennau a grwpiau cymunedol yn y DU sy’n derbyn cynnyrch sy’n weddill o archfarchnadoedd er mwyn ei ddosbarthu i bobl leol sydd ei angen.

 

Mae Bwyd i Bawb Bangor, a leolir yn swyddfa Plaid Cymru yn 70 Stryd Fawr Bangor yn cael ei drefnu gan gynghorwyr a gwirfoddolwyr y blaid yn y ddinas ac yn dosbarthu bwyd ar fore Sul am 10a.m. Nid oes angen i’r sawl sy’n derbyn bwyd gan y cynllun gael eu cyfeirio yno na darparu unrhyw ddogfennaeth

 

Profodd y gwasanaeth, a sefydlwyd bron i 5 mlynedd yn ôl yng Ngwanwyn 2018,  gynnydd yn y defnyddwyr yn ystod y pandemig wrth i bobl leol wynebu cyfnod economaidd heriol.

 

Mae Siân Gwenllian wedi trafod ei bore’n gwirfoddoli â’r prosiect:

 

“Roedd ciw yn ffurfio cyn inni ddechrau rhannu’r bwyd am 10 a.m.

 

“Bûm innau a Maer Plaid Cymru Bangor, y Cynghorydd Gwynant Roberts, yn didoli’r bwyd cyn mynd ati i ddosbarthu’r bwyd i’r degau o bobl a theuluoedd oedd yn y ciw y tu allan i’r swyddfa.

 

“Mae llawer o’r defnyddwyr wedi bod yn ymwelwyr cyson ers dechrau’r prosiect yn 2018. Ond mae gwirfoddolwyr yn sôn eu bod wedi gweld llawer o wynebau newydd wrth i bobl wynebu rhagor o drafferthion economaidd yn ddiweddar.

 

“Mae gan lawer o’r teuluoedd sy’n defnyddio’r gwasanaeth blant o bob oed.

 

“Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud gan y grwpiau hyn ledled Cymru yn dyst i deimlad cryf o ysbryd ac undod cymunedol. Mae hefyd yn arwydd ein bod yn symud i’r cyfeiriad cywir o ran byw’n fwy cynaliadwy a lleihau gwastraff bwyd.

 

“Serch hynny, mae’r ffaith fod teuluoedd yn dibynnu ar gynlluniau bwyd yn sgil-effaith blynyddoedd o doriadau creulon ac agenda neo-ryddfrydol sydd wedi gwneud teuluoedd ledled Cymru yn dlotach.

 

“Ers cael fy ethol am y tro cyntaf yn 2016, mae sawl prosiect fel yr un yma wedi eu sefydlu ar draws yr etholaeth.

 

“Mae’r mentrau hyn yn adlewyrchiad o’r sefyllfa frawychus y cawn ein hunain ynddi, ond hoffwn ddiolch i wirfoddolwyr gweithgar Bwyd i Bawb Bangor sy’n gwneud y math hwn o waith yn ein cymunedau o ddydd i ddydd. Estynnaf fy niolch i wirfoddolwyr eraill sy’n gwneud gwaith amhrisiadwy tebyg mewn cymunedau ar draws Arfon.”