Rhagor o lwyddiannau i blant a phobl ifanc Bangor a’r Felinheli

Llwyddiannau dydd Iau yn Eisteddfod yr Urdd

gan Catrin Elain Roberts

Roedd hi’n chwip o ddiwrnod ar y maes eto heddiw gyda phlant a phobl ifanc Bangor a’r Felinheli’n cystadlu’n arbennig.

Llongyfarchiadau i Barti Tryfan am ddod yn 2il yn y gystadleuaeth Parti Merched Blwyddyn 7, 8 a 9 ac i Ysgol Glanaethwy am ddod yn 3ydd yn y gystadleuaeth Cân Actol Blwyddyn 7, 8 a 9.

Llongyfarchiadau hefyd i Fand Jazz Ysgol Friars am ddod yn 3ydd yn y gystadleuaeth Cerddorfa / Band dan 19 a da iawn i Fand Jazz Ysgol Tryfan am gystadlu.

Bu i Carys Clement-Evans o Ysgol Tryfan gystadlu’n wych yn y gystadleuaeth Unawd Llinynnol Blwyddyn 10 a dan 19 oed, a da iawn hefyd i Gôr Tryfan am gystadlu yng nghystadleuaeth Côr S.A. Blwyddyn 7, 8 a 9.