Pwynt gwerthfawr i Felin

Gêm gyfartal i Felin yn erbyn Dinbych

gan Gwilym John
20170201_122009_Moment

Gôl Iwan Eds, y bêl yn amlwg wedi croesi

20170201_154856_Moment

Ymdrech sbectaciwlar Iwan Bonc yn yr hanner cyntaf

20170201_154856_Moment2

Ac arbediad sbectaciwlar Aaron Jones, golgeidad Dinbych, yn ei gwthio yn erbyn y trawst

Cynghrair “Ardal Fit Lock Gogledd Orllewin”

CPD Y Felinheli 2 Tref Dinbych 2

Mawrth 19, 2022

Gyda Dinbych yn drydydd yn y tabl ac efo siawns am  ennill y teitl, roedd cipio pwynt yn eu herbyn yn ymdrech arwrol gan hogia Felin

Daeth ail gôl Felin yn eiliadau olaf y gêm, gyda chwaraewyr Dinbych yn honni fod Rhys “Archie” Parry yn camsefyll. Efallai fod rhai o gefnogwyr Felin yn meddwl yr un fath, ond roedd y llimanwr yn hollol gadarn ei farn ei bod hi’n gôl ddilys.

Ac o ystyried fod y tîm cartref wedi taro’r bar neu’r postyn ddim llai na chwe gwaith yn ystod y gêm, roedd Felin yn llawn haeddu chydig bach o lwc. Roedd dwy o’r rheini yn anlwcus iawn. Cafodd ergyd sbectaciwlar Iwan Bonc yn yr hanner cyntaf ei harbed yr un mor sbectaciwlar gan y golgeidwad, yn ei tharo hi yn erbyn y bar. A cafodd Archie shot wych yn ratlo’r postyn yn yr ail hanner.

Iwan Edwards sgoriodd y gyntaf i roi Felin ar y blaen, gyda’r ergyd yn taro’r bar, croesi’r llinell, cyn bownsio allan o’r gôl. Ond nid oedd amheuaeth ei bod wedi croesi. Ond daeth Dinbych yn ol yn gryf ac yn sgorio dwy gol o fewn deg munud, i fynd 1-2 ar y blaen.

Ond ar ol rhoi pwysau aruthrol ar amddiffyn yr ymwelwyr, daeth gôl Archie a phwynt gwerthfawr i Felin. Yn dilyn storm Eunice canol Chwefror, chwaraeodd Felin bedair gêm heb golli, dwy fuddugoliaeth (Brickfield a Llai) a dwy gyfartal (Brymbo a Dinbych). Ac mae hyn wedi gadael y clwb mewn sefyllfa ddigon iach, ac efo pob siawns o gael tymor arall yng Nghynghrair Ardal Gogledd Orllewin.

Oddicartref yn Llandudno dydd Sadwrn, ar ol gêm fawr Cymru yn erbyn Awstria nos Iau.