Pryderon am gyrraedd y gwaith

Cau Pont Borth yn achosi poen meddwl i weithiwyr ym Mhenrhosgarnedd

gan Marian
Bont Borth ar gau

Llun: Nia Humphreys

Pont Menai

Llun: Catrin Angharad Roberts

Pont Britannia

Llun: Catrin Angharad Roberts

Pont Menai

Llun: Catrin Angharad Roberts

Mae nifer o weithiwyr yn poeni am gyrraedd eu gwaith yn ardal Penrhosgarnedd ddydd Llun 24.10.22 ar ôl cael eu dal mewn traffig difrifol yn yr ardal nos Wener. Gan fod Pont Borth wedi ei chau roedd traffig i groesi Pont Britannia yn achosi tagfeydd aruthrol yn ardal Penrhosgarnedd.

Roedd ciwio hyd at 9 o’r gloch y nos ar Ffordd Penrhos gyda rhai o staff Ysbyty Gwynedd yn dewis gadael eu ceir ar dir yr ysbyty a cherdded, tra roedd eraill wedi bod yn ciwio am hyd at 3 awr i adael y maes parcio.

Fe gymerodd Mary Jones o Langefni dair awr a hanner i gyrraedd adref o’i gwaith yn Ysbyty Gwynedd nos Wener.  Bellach mae’n meddwl o ddifri sut y bydd yn cyrraedd y gwaith ddydd Llun. “Mae traffig ddigon drwg beth bynnag ac yn anodd cyrraedd erbyn 8.30 fel mae hi. Dydw i ddim yn gwybod beth i’w wneud”. Gan fod modd i gerddwyr ddefnyddio Pont Borth mae Mary Jones yn ystyried gadael ei char ym Mhorthaethwy a cherdded draw i’r ysbyty.

Yn ôl Dafydd un arall o weithwyr yr Ysbyty, roedd o’n ystyried defnyddio ei feic i deithio’r 10 milltir i’r gwaith, ond yn poeni am deithio yn y tywyllwch ar ôl troi’r clociau wythnos nesaf.