Penwythnos gwael yn Seilo

Dynion a Merched Felin allan o Gwpan Cymru

gan Gwilym John

Cwpan Cymru, dynion a merched

CPD Y Felinheli 1 Conwy 4

Ar ol cyrraedd Ail Rownd Cwpan Cymru am y tro cyntaf ers i neb gofio, Conwy oedd yr ymwelwyr i Gae Seilo. Mae nhw yn chwarae yn y gynghrair uwchben Felin, yn ail haen y pyramid Cymraeg, yng nghynghrair “JD Gogledd Cymru”, lle mae nhw yn y 13eg safle yn y tabl ar hyn o bryd, a heb golli gêm ers ddiwedd Awst. Felly roedd hon yn gêm galed i Felin, ond mewn gêm gwpan, pwy a wyr.

Roedd Felin yn wych yn yr hanner cyntaf, ond er creu llawer mwy na’r ymwelwyr, Conwy aeth i fewn hanner amser 2-1 ar y blaen, Jack Cain yn penio gol wych i Felin i ddod â’r hogia o fewn gafael. Ond ar yr awr, rhoddodd y reff gic gosb i Conwy ar ymyl y bocs, yn hollol anheg (gan mai trosedd ar Ryan un o hogia Felin oedd hi, a ddim fel arall). Roedd hi yn gic dda iawn, 3-1 i Gonwy.

Ac er i Felin frwydro yn galed, sgoriodd Conwy eu pedwerydd, a nid oedd ffordd yn ol i’r tim cartref. Roedd y sgor terfynnol ychydig yn greulon ar Felin, ond roedd Conwy yn dim o hen bennau, yn glinigol iawn, ac efallai fuasa “proffesiynnol” yn eu disgrifio. Cawsant 8 gerdyn melyn yn ystod y gêm! Daeth rhediad Felin yn y gwpan i ben.

CPD Merched Felin 1 Wrecsam 5

Twrn y merched oedd hi y diwrnod wedyn, yn chwarae tim merched Wrecsam, tim Rob a Ryan. Felly gêm anodd i’r genod hefyd felly. Aethant i lawr 0-2 yn yr hanner cyntaf, ac er gweithio yn galed a chrau cyfleon, roedd hi yn 0-4 ar ol 65 munud.

Dal i frwydo wnaeth y genod, ac ar ol 82 munud, sgoriodd Yasmin Williams gôl haeddiannol i wneud y sgor edrych yn fwy parchus. Cafwyd dau neu dri cyfle wedyn, ond Wrecsam sgoriodd yn y funud olaf i’w gwneud hi yn 1-5. Yn debyg i’r hogia y diwrnod cynt, efallai nad oedd y sgor terfynnol yn adlewyrchiad teg.

Cafodd dwy o genod Felin eu cario oddi ar y cae mewn stretshar, Katie Midwinter yn yr hanner cyntaf, a Llio Henshaw yn yr ail hanner, a bu rhaid iddi hi fynd i’r ysbyty. Dymunwn gwellhad buan i’r ddwy.