Pêl-droed yn ôl

Felin yn paratoi am y tymor newydd

gan Gwilym John

Mae’r tymor newydd ar ein pennau cyn i ni droi. Ac er fod y toriad mond ryw chydig o wythnosau, mae rhaid cychwyn o’r newydd. Angen paratoi y cae, llenwi tyllau ac ail hadu, a fel gwelwch yn y lluniau, adeiladu a gosod goliau newydd sbon (tasg ddigon cymleth i fod yn onest!). Ac yn bwysicach na dim, cael yr hogia yn ffit ar gyfer tymor caled arall yng nghynghrair LockStock Ardal Gogledd Orllewin.

Mae’n nhw wedi bod yn ymarfer ers cwpwl o wythnosau, ac wedi chwarae dwy gem gyfeillgar hyd yn hyn. Curo Pwllheli 6-1, a cholli 1-3 yn aer tennau (!) Mynydd Llandegai. Pwrpas gemau fel hyn ydi i roi cyfle i bawb yn y sgwad cael munudau ar y cae fel eu bod yn barod pan fydd y gemau go iawn yn cychwyn. Felly nid oes angen darllen gormod i fewn i’r canlyniadau.

Yng Nghaergybi fydd y gem gyfeillgar heddiw (tydi’r frawddeg yna ddim yn gwneud llawer o sens!). A wedyn yn Nhalysarn Celts nos Fawrth (6:30)

Yna yn syth i fewn i ddim llai na Chwpan Cymru wsnos nesaf yn Llanystumdwy.

Dewch i gefnogi.