Peint a Sgwrs yn y Tap & Spile

Cyfarfod rhai o’r dysgwyr

gan Menna Baines

Mae cyfleoedd i sgwrsio’n anffurfiol yn hanfodol i unrhyw un sydd am ddysgu Cymraeg a dyna’n union mae Peint a Sgwrs ym Mangor yn ei gynnig.

Dani Schlick, Almaenes sydd wedi dysgu Cymraeg yn rhugl ei hun, sy’n rhedeg y sesiynau wythnosol ar ran Menter Iaith Bangor, a hynny ers Hydref 2017. Hyd yn oed yn ystod y cyfnodau clo, daliwyd i gynnal y sesiynau ar-lein, gan ddychwelyd i’r arfer o’u cynnal mewn tafarn fis Hydref y llynedd. Yn y Tap & Spile yn y Garth y daw’r criw at ei gilydd erbyn hyn a hynny bob nos Fercher am 7pm.

Ymhlith y rhai oedd yno ar y nos Fercher olaf cyn cael toriad dros yr haf yr oedd Peter Doyle sy’n byw yn Nhregarth ac wedi magu teulu yno. Wedi’i eni yn yr Alban i rieni Gwyddelig, bu’n gweithio ar fastiau teledu, ac yn adeiladu rhai hefyd, mewn sawl gwlad gan gynnwys Cymru. Er ei fod yn briod â Chymraes Gymraeg, wrth symud o le i le gyda’r gwaith prin oedd y cyfle i ddysgu Cymraeg ei hun, ond ers ymddeol, er ei fod wedi colli ei wraig erbyn hyn, mae wedi bwrw iddi o ddifri gan fynd i wersi.

“Roedd gen i broblem efo hyder i ddechrau – roeddwn i’n ofni gwneud camgymeriadau,” meddai Peter. “Ond wedyn wnes i ddechrau sylweddoli bod rhywun angen gwneud camgymeriadau er mwyn dysgu!”

Yn ôl Peter, y rhwystr mwyaf i ddysgu’r iaith yn yr ardal yma yw’r ffaith fod nifer o Gymry Cymraeg yn amharod i siarad yr iaith efo fo, gan droi i’r Saesneg yn aml. Ond yn Peint a Sgwrs mae’n cael cyfle i sgwrsio gyda siaradwyr rhugl ac i ymarfer efo’i gyd-ddysgwyr, sy’n help mawr iddo.

Mae un arall o’r criw, Elijah Everett, yn dod o’r Almaen yn wreiddiol ond yn byw yng Nghaernarfon erbyn hyn. Mae’n ennill ei fywoliaeth ym myd ieithoedd, fel tiwtor ieithoedd dros y we, yn enwedig Almaeneg a Saesneg. Mae hefyd yn gallu siarad Iseldireg a Ffrangeg ac wrthi’n dysgu Rwsieg a Gaeleg yr Alban yn ogystal â Chymraeg. Ar ôl mynychu grŵp sgwrsio ym Mhalas Print yng Nghaernarfon am gyfnod cyn y pandemig, dechreuodd ddod i Peint a Sgwrs ddau fis yn ôl gan ymdoddi’n hawdd i’r criw hwyliog.

Roedd hon yn sesiwn olaf i un o’r aelodau, sef Richard Gillion, brodor o Swydd Efrog sy’n byw ym Mangor ond sydd ar fin ffarwelio â’r ardal. Gweinidog efo’r Methodistiaid yw Richard, gyda gofal dros saith eglwys yng Ngwynedd a Môn, ond yn ddiweddar mae wedi cael galwad i Borthcawl a bydd ef a’i wraig, sy’n dod o’r ardal honno’n wreiddiol, yn symud yno’n fuan.

“Fe ges i fy mwrw i’r dwfn o ran y Gymraeg pan gyrhaeddais i yma, gan fod cymaint o Gymry Cymraeg yn yr eglwysi,” meddai Richard. “Dwi wedi mwynhau fy amser yma ac mae’r cyfnod wedi fy helpu i’n fawr efo’r iaith. Fe fydda i’n sicr yn dal ati yn y de.”

Bydd Peint a Sgwrs yn ailddechrau ym mis Medi – cadwch lygad ar dudalen Facebook Menter Iaith Bangor ac ar y ‘Digwyddiadau’ ar y wefan yma.