CPD Merched Y Felinheli, tim dan 11

Dyfodol tim merched Cymru efallai?

gan Gwilym John
genod-dan11

Dyma lun ir genod mewn twrnament diweddar efo un or coaches Jody Cain

CPDM Y Felinheli, tim dan 11

 gan Aaron Jones-Evans (rheolwr tim CPDM Y Felinheli)

Mae CPDM Y Felinheli wedi dechrau tîm dan 11 yn ddiweddar y tymor hwn, a hyd yn hyn, er ei bod yn ddyddiau cynnar mae’n profi i fod yn gam llwyddiannus i adeiladu’r clwb. Bydd dau o’n chwaraewyr hŷn, Katie Midwinter ynghyd â’r hyfforddwr Jody Cain yn cymryd yr awenau a rheoli’r grŵp, gyda chefnogaeth y clwb cyfan gobeithiwn y bydd hyn yn llwyddiannus am nifer o flynyddoedd ac yn helpu i adeiladu timau o bob oedran o fewn y gêm merched.

Gyda niferoedd yn cynyddu’n wythnosol a noddwr yn dod i gyflenwi offer hyfforddi a chitiau mae’n edrych yn ddisglair iawn ar gyfer y dyfodol. Mae cwmni cyfreithwyr lleol, Carter vincent wedi noddi’r topiau hyfforddi ac mae’r citiau chwarae yn cael eu noddi gan Recordiau Cosh Yws Gwynedd.

Rydym yn hynod ddiolchgar am yr holl gefnogaeth a gawsom wrth sefydlu’r tîm merched ac mae’n galonogol iawn bod busnesau cariadus yn barod iawn i gefnogi gêm merched a’n helpu i adeiladu un o’r chwaraeon sy’n tyfu gyflymaf hyd yma, chwaraeon merched!

Bydd y tîm dan 11 yn cystadlu yng nghystadlaethau’r ‘Round Robins’ sy’n cael eu cynnal bob pythefnos mewn gwahanol diroedd o amgylch Gogledd Cymru, bydd Cae Seilo yn cynnal digwyddiad ‘Round Robins’ naill ai ddydd Sadwrn y 29ain neu ddydd Sul y 30ain o Hydref a byddai’n help enfawr i’r clwb pe gallech ddod allan i gefnogi ein genethod.

Am unrhyw wybodaeth am hyfforddiant neu hyd yn oed cymryd rhan o fewn y clwb cysylltwch trwy ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, instagram neu facebook, CPD Merched Y Felinheli. Ein ‘moto’ o fewn y clwb yw #teulufelin felly mae croeso mawr i unrhyw help neu gefnogaeth gan unrhyw un gan ein bod eisiau adeiladu’r clwb yma nid fel clwb pêl droed ond fel teulu o fewn y gymuned.

Gobeithiwn eich gweld yng Nghae Seilo yn y dyfodol agos!