Llwyddiant ysgubol Ffrindiau Pier Garth Bangor

Codi £18,000 mewn 3 mis

gan Marian

Mae modd prynu tocynnau blynyddol i gael mynediad ar y pier – cynllun llwyddiannus iawn dros y misoedd diwethaf yn ôl Avril Wayte, Cadeirydd grŵp elusennol Ffrindiau Pier Garth Bangor. Bellach mae bron i 900 wedi eu gwerthu. Mae’r rhain yn rhoi mynediad am flwyddyn i’r pier ac mae’n bosib hefyd prynu pas am oes.

Mae’r tocynnau blynyddol ar gael i’w prynu yng nghiosg y fynedfa – dyma’r prisiau:-

£5 – gyda phrawf o god post LL57

£5 – myfyrwyr 

£10 – pob ymwelydd arall

£25 – pas gydol oes

Staff / gwirfoddolwyr y pier – am ddim

Mae wyth caban ac un pafiliwn ar y pier gyda dewis da iawn o gaffis, siopau lle allwch chi brynu crefftau lleol unigryw, gwaith celf, cardiau, anrhegion amrywiol, ac wrth gwrs – offer pysgota. Mae caffi’r pafiliwn ar agor pan fo’r pier ar agor felly mae cyfle am baned bob amser da chi’n ymweld! 

“Mae ’na dal gwaith atgyweirio i’w wneud, ac mi wneith o gymryd amser, ond mi neith o gael ei wneud” meddai Avril Wayte yn ffyddiog. Mae’r cyngor rŵan angen codi arian i fedru cwblhau’r camau nesaf, sef atgyweirio pen pellaf y pier, a’r gobaith o greu glanfa i gychod.   

Mae dal angen gwirfoddolwyr ar gyfer y fynedfa a siop y ffrindiau, yn ôl Avril “Mae ’na gymuned dda ohonom ni, mae ’na gymuned dda ar y pier a chymuned dda o bobl sy’n dod i ymweld â’r pier ac mae’n grêt o hwyl”. Os ydych chi am wirfoddoli cysylltwch â Ffrindiau Pier Garth Bangor 07974 741755 E-bost: fbgp_membership@bangorpier.org