Noson lansio Cyfrol o Farddoniaeth Osian Wyn Owen
Y Shed, Y Felinheli, Nos Wener Hydref 28in
Mae cyfres ‘Tonfedd Heddiw’ gan Cyhoeddiadau Barddas yn rhoi llwyfan i feirdd newydd gyhoeddi eu gwaith am y tro cyntaf. Ar nos Wener olaf Hydref, cafwyd lansiad cyfrol o farddoniaeth Osian Wyn Owen neu Osian Bonc fel ei adnabyddir yn Y Felinheli. Roedd yna awyrgylch arbennig yn Y Shed a daeth yna griw da o bobol yno i fod yn rhan o’r achlysur. Cafwyd teyrngedau gan ffrindiau a chyd-feirdd Osian ac yna cerddoriaeth gan Elis Derbyshire. Roedd hi yn noson ddifyr iawn.
Y prifardd Rhys Iorwerth oedd yn holi Osh am ei waith wrth greu y cyfrol. Cawsom hanes y cefndir tu ol i rhai o’r cerddi. Bydd gyrru ar hyd yr A470 drwy Commins Coch byth yr un peth eto i’r rhai a glywodd yr hanes a arweiniodd at y gerdd i’w dad Islwyn. Cafwyd gerdd deheuig hefyd i’w fam Nerys.
Mae‘r cerddi yn mynd a ni i lefydd cyn belled a Chroatia (“mawr fu’r sblash yng Nghroatia”) ac yna yn fwy lleol – Bangor Uchaf:
“Dydi’r eira
Ddim yn aros yn hir iawn
Ym Mangor Uchaf.
Na’r bobol chwaith.”
Cawn sawl cerdd i godi gwen ac ambell i gerdd i’n sobri. Llyfr bach sydd yn lyfr mawr. Os nad ydio ganddoch chi yn barod ewch i’w brynu!
stori: Nerys John