Helpu busnesau a helpu’r gymuned

M-SParc ar y stryd fawr ym Mangor

gan Marian
M-Sparc ar y stryd fawr

Mae’r adeilad gyferbyn a’r Gadeirlan

Gwellau sgiliau digidol
Gweithdai yn M-Sparc ar y stryd Fawr

Mae M-SParc, Cwmni Prifysgol Bangor, yn mynd #ArYLôn i ddinas Bangor, i ddod â gweithdai, cymorth busnes, desgiau cydweithio, ac ysbryd entrepreneuraidd i fyfyrwyr, busnesau a chymuned Bangor.

Mae modd cael gweithdai ym meysydd gwyddoniaeth a thechnoleg yn rhad am ddim, ac mae gofod gwneuthurwr Ffiws yn caniatáu prototeipio a phrofi syniadau.

Dywedodd Ben Roberts, Swyddog Prosiect #ArYLon, “Gall unrhyw un ddod i’r gofod! Mae’n agored i fyfyrwyr, busnesau, y cyhoedd, a bydd hyd yn oed grwpiau ysgol yn cael eu gwahodd i gael eu hysbrydoli. Rydyn ni eisiau creu cymuned, ac i bobl deimlo bod yna gyfle ar garreg eu drws i fod yn entrepreneuraidd ac i archwilio meysydd gwyddoniaeth a thechnoleg.”

Mae’r cyswllt â’r gymuned yn hynod bwysig; Mae #ArYLon yma i gefnogi a gweithio gyda menter leol. Mae’r lleoliad bellach ar agor i’r cyhoedd ac yn croesawu pobl drwy’r drysau.

Dywedodd Yr Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-Ganghellor Cenhadaeth Ddinesig a’r Iaith Gymraeg, Prifysgol Bangor;  “Fel Prifysgol, rydym yn falch iawn o weld prosiect M-SParc #ArYLon ar Stryd Fawr Bangor. Mae Stryd Fawr lewyrchus yn hollbwysig i’r Brifysgol, ac mae cryfhau ein cysylltiadau â phartneriaid i wella ac adfywio canol y ddinas yn flaenoriaeth allweddol. Mae’r Brifysgol wedi lansio ei Strategaeth Ymgysylltu Dinesig newydd yn ddiweddar, sy’n nodi sut y byddwn yn ehangu ac yn dyfnhau’r ystod eang o berthnasoedd rhwng y Brifysgol a chymunedau ym Mangor a thu hwnt.

Gallwch ddod o hyd i M-SParc #ArYLon yn 204 Stryd Fawr Bangor (cyn safle siop ddillad Morgan) ger y Gadeirlan.