Hanner marathon at Eisteddfod 2023

Anelu i godi £500

William Owen
gan William Owen

Mi fydd Bryn Tomos yn rhedeg hanner marathon Caerdydd ddechrau mis Hydref.  Mae’n gwneud hynny i godi arian at gronfa apêl Bangor, Pentir a Phenrhosganredd Eisteddfod Llyn ac Eifionydd 2023.

Mae’r tair ardal wedi dod at ei gilydd i godi cyfanswm o £22,500. Eisoes mae dros hanner y swm wedi ei gasglu.  Mi gafwyd cyfraniad o £8,000 gan Gyngor Dinas Bangor.

Nod Bryn Tomos yw codi £500.  Mae dros hanner hynny wedi ei addo eisoes ar ei dudalen justgiving.

Cyn hynny mae Bore Coffi at yr apêl yn festri Capel Berea Newydd fore Sadwrn 17 Medi rhwng 10-12.00 o’r gloch.

1 sylw

Mae’r sylwadau wedi cau.