Hanes Bangor mewn lluniau

Arddangosfa Storiel Bangor

gan Osian Owen
Untitled-design-2022-26T140608

Siân yn arddangosfa John Wickens yn Storiel Bangor

Roedd John Wickens yn ffotograffydd toreithiog, ac mae casgliad o’i waith i’w weld mewn arddangosfa arbennig yn Storiel Bangor tan 15 Hydref.

Er iddo gael ei eni ym mhentref Keymer yng Ngorllewin Sussex, cyfarfu Wickens ag Elizabeth Williams, merch y ffotograffydd a’r argraffydd o Fangor, John Williams. Priododd y cwpl a symud i Fangor, ac erbyn 1889 roedd yn rhedeg siop ffotograffiaeth ei dad-yng-nghyfraith yn y Cilgaint ym Mangor Uchaf.

Erbyn 1895 roedd wedi agor stiwdio yn 2 Ffordd y Coleg, Bangor Uchaf ac yn ôl cofnodion ym 1903 roedd yn berchen ar stiwdio yn 43 Stryd Fawr, Bangor.

Enillodd sawl gwobr am ei luniau, gan gynnwys medal Aur yn Eisteddfod Abertawe yn 1891. Yn 1902 gwnaed yn aelod anrhydeddus o’r Orsedd dan yr enw “Gwawl-lunydd”.

Yn ddiweddar aeth Siân Gwenllian, yr aelod lleol o Senedd Cymru draw i’r arddangosfa, ac mae’n annog pobol leol i ymweld â Storiel cyn 15 Hydref.

“Fel rhywun a aeth i’r ysgol yma ym Mangor, ac a fagwyd yn y Felinheli, sydd hefyd yn ymddangos yn yr arddangosfa, roedd yn ddifyr iawn dysgu mwy am orffennol yr ardal trwy’r lluniau.

“Yn ystod ei yrfa comisiynwyd John Wickens i dynnu lluniau o nifer o fawrion lleol fel Lloyd George a Henry Paget, Marcwis Môn. Ond mae’r ffotograffau o bobl leol yn byw eu bywydau dydd i ddydd yn llawer difyrach.

“Mae bywyd cymdeithasol, economaidd a diwylliannol yr ardal yn cael ei bortreadu i’r dim.

“Mae gan bobol tan 15 Hydref i ymweld â Storiel i gael cipolwg ar y dyddiau a fu ym Mangor.”