Galw am stiwardiaid

Mae’r râs yn digwydd nos Fercher

Gŵyl y Felinheli
gan Gŵyl y Felinheli
48190956837_15ec038ab5_5k

Mae Gŵyl y Felinheli yn trio dod o hyd i stiwardiaid ar gyfer Râs 10K Gŵyl y Felinheli fory.

Mae amgylchiadau heriol wedi codi sy’n golygu bod yr angen am stiwardiaid yn fwy nag erioed eleni.

Dydi’r gwaith ddim yn waith caled, ac mae bwyd gan griw barbeciw’r Ŵyl am ddim yn rhan o’r fargen!

Dylai’r sawl sy’n fodlon gwirfoddoli anfon neges i Dyl Bonc, 07917 572305.

Diolch!