Ffiesta peldroed yn Felin

Codi arian i’r clwb ieuenctid

gan Gwilym John
IMG_20220918_150735

Llyr yn cadw trefn ar chwaraewyr y dyfodol

IMG_20220918_141450

Awyrgylch braf yma drwy’r dydd

Cynhaliwyd gwyl beldroed ar gae yr ysgol yn Y Felinheli ddydd Sul, gyda Llyr Ifans yn  reffio y gemau i gyd! O 8:00 y bore tan 8:00 y nos!

Bu gemau i pob oedran, o’r rhai lleiaf dan 5 i fyny at rhai ddyla wybod yn well, y rhieni a chefnogwyr.

Cafwyd gêm “celebs” hefyd gydag enwogion yn dangos pa mor dda oeddan nhw, yn cynnwys ambell i fardd, actorion, aelodau bandiau, athro (Mr Davies), DJ (Kev Bach) ac eraill. Da iawn oeddan nhw hefyd.

Daeth pethau i ben tua 8 pm gyda “penalti shwt-owt” yn y tywyllwch.

Diwrnod hapus a gwych iawn, a diolch i’r trefnwyr ac i bawb gymerodd ran. Cafwyd lot o hwyl a chodwyd arian da iawn er mwyn cynnal y clwb peldroed ieuenctid am dymor arall.