CPD Y Felinheli chwe gem heb golli

Angen un pwynt arall i fod yn hollol saff

gan Gwilym John

Llandudno Albion 1 Felin 1     26/03/22

Felin 2 Llanuwchllyn 1          02/04/22

Ers ddiwedd Chwefror, ar ol Storm Eunice, mae Felin wedi cael chwe wythnos heb golli gêm, tair buddugoliaeth a thair gêm gyfartal, y rhediad gorau y tymor yma. Mae hyn wedi rhoi y clwb mewn lle iach iawn yn y tabl, gyda’r ofnau o ddisgyn i lawr o gynghrair Ardal “Fit Lock” Gogledd Orllewin wedi hen basio. Un pwynt arall sydd ei angen i fod yn hollol siwr, ond rhaid i glybiau sydd yn is yn y tabl ennill eu holl gemau, sydd yn anhebygol.

Ar ol dechrau araf a chydig yn ddiglem yn erbyn Albion, gwella wnaeth Felin, ac yn rheoli yn gyfforddus erbyn diwedd y gêm, ond roedd gêm gyfartal ar cae plastic Llandudno yn dra derbynniol, 1-1 y sgôr terfynol. Iwan Bonc sgoriodd i Felin, yn codi’r bel yn gelfydd iawn dros y golgeidwad (gweler y llun uchod). A rhaid nodi fod gôl y tim cartref yn amlwg iawn offseid. A cafodd Euron, y rheolwr, gerdyn melyn ar gam!

Yna Llanuwchllyn oedd yr ymwelwyr i Felinheli y Sadwrn canlynol, gyda’r Gymraeg yn amlwg iawn ac yn creu naws braf yn Seilo. Roedd y gêm yn galed gyda safon y beldroed yn wych, gêm o safon. Roedd dwy gôl gynnar Felin yn ddigon i gipio tri phwynt arall. Er rhaid dweud fod y munudau olaf wedi bod yn nefus iawn yn dilyn gôl Llanuwchllyn ryw ddeg munud o’r diwedd. Iwan Bonc gafodd y gyntaf ar ol tri munud, a Caio Hughes yr ail ar ol saith munud , yn sgorio yn syth o gic rhydd.

Mae rheolwr Felin, Euron, yn yr ysbyty ar hyn o bryd, a buasai buddugoiaeth dydd Sadwrn ddiwethaf wedi codi ei galon siwr o fod. Gwellhad buan giaffar, a brysia yn ol. Tydi’r dygowt ddim yr un fath hebdda ti.

Dim gêm dydd Sadwrn, ond mae darbi fawr ar ddydd Mercher, Ebrill 13eg, gyda Nantlle Vale yn ymweld â Seilo, y gêm i gychwyn 6:30pm